Parciau Cenedlaethol Cymru ‘i golli statws’

 

Mae arbenigwyr o Banel Asesu’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) yn y Deyrnas Unedig wedi datgan rhybudd clir ynghylch canlyniadau gweithredu adroddiad ‘Tirweddau’r Dyfodol: Cyflawni Dros Gymru’ gan Lywodraeth Cymru.   Maent yn nodi problemau megis hepgor cyfeiriadau ynghylch cadwraeth fel un o ddibenion sylfaenol Parciau Cenedlaethol, a diffyg cyfeiriad at Egwyddor Sandford, sy’n darparu dull o atal mewn polisiau er mwyn gwarchod y rhinweddau arbennig y caiff Parciau Cenedlaethol eu henwi felly o’u herwydd.

“Pe byddid yn gweithredu’r argymhellion yn adroddiad Tirweddau’r Dyfodol, byddai’n amhosibl i’r panel barhau i roi cydnabyddiaeth ryngwladol i Barciau Cenedlaethol a AHNE Cymru fel mannau gwarchodedig.”

Panel Asesu’r Deyrnas Unedig, Comisiwn Byd-eang IUCN ynghylch Mannau Gwarchodedig – darllenwch adroddiad panel IUCN yma:  IUCN Future Landscapes.final (1)

Ers tro byd, mae Cymdeithas Eryri wedi bod yn feirniadol o adroddiad ‘Tirweddau’r Dyfodol’ a’r prosesau a luniodd yr adroddiad.    Yn fuan, byddwn yn rhannu ein barn â chi am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru y testun hwn, ac yn cynnig awgrymiadau ynghylch sut gallwch chi ymateb yn effeithiol.

Trowch hefyd at yr erthygl hon gan y BBC ynghylch y mater.

 

Comments are closed.