Sgiliau Cadwraeth Ymarferol: Trwy lygaid gwirfoddolwr

Yn Chwefror 2017, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy newis i gyfranogi yn y cwrs Sgiliau Cadwraeth Ymarferol Cyntaf, a gynhaliwyd gan Gymdeithas Eryri fel rhan o ddigwyddiadau eu hanner canmlwyddiant.

Cychwynnodd yr wyth ohonom ntrwy gyfranogi diwrnod gwaithBeth efo eu tystysgrif achredediggrŵp yn Tŷ Hyll, ac yno, gyda’n gilydd, fe wnaethom ni ddysgu’r sgil o hogi offer gardd, megis tocwyr, rhawiau a sisyrnau tocio, gan ddefnyddio dŵr a cherrig hogi. Nid oedd yr un ohonom ni wedi cael profiad o gynnal a chadw offer fel hyn o’r blaen, felly roedd yn gyfle hynod werthfawr.

Fe wnaeth pob un o’r diwrnodau gwaith hyn roi cyfle i mi ddefnyddio offer nad oeddwn i wedi’u defnyddio erioed o’r blaen, yn cynnwys trosolion, gyrdd, llifiau bwa a matogau, mewn amgylcheddau cyfarwydd a newydd. Yn ogystal â hyn, yn ystod pob digwyddiad, cefais gyfle i siarad â nifer o wahanol unigolion, pob un ohonynt yn wybodus iawn am ei faes, ac ennill profiad ganddynt. Roedd pob un ohonynt yn rhannu diddordeb mewn gwarchod a chynnal yr amrywiaeth hyfryd o amgylcheddau a geir yn Eryri. I mi, dyma’r elfen fwyaf buddiol o gwblhau’r cwrs.

Yn ychwanegol, o ganlyniad uniongyrchol o gwblhau’r cwrs Sgiliau Cadwraeth Ymarferol, rwy’n gwybod sut i ddefnyddio dyfais GPS llaw, sut i asesu risgiau yn effeithiol, sut i wahaniaethu rhwng gwahanol fathau o gerrig hogi, sut i greu gwrych gweddol lwyddiannus, ac roeddwn i’n ddigon ffodus o allu gwneud hynny fel rhan o dîm brwdfrydig a gwybodus. Heb os, fe wnaiff hyn fy nghynorthwyo’n sylweddol yn fy ymdrechion yn y dyfodol i weithio fel cadwraethwr maes, ac rwy’n hynod o ddiolchgar am y cyfle a gefais gan Gymdeithas Eryri.

 

Diolch yn fawr i’n cyllidwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, Rhodd Eryri, “Garfield Weston Foundation”, “The Esme Kirby Snowdonia Trust” am gefnogi ein gwaith.

Funders logos

Comments are closed.