Peidiwch a cholli’r cyfle i brynu’r planhigion hyn!!!
Yn ystod yr haf yn Nhŷ Hyll mae gennym Blanhigion sy’n denu peillwyr ar werth, yn ogystal â’n ‘Hadau i Wenyn’. Mae pob un o’r planhigion wedi ei roi’n garedig gan wirfoddolwr Tŷ Hyll a mae’r elw i gyd yn mynd at gynnal a chadw’r hafan natur hwn.
Tŷ Hyll yw eiddo blaenllaw Cymdeithas Eryri ac mae llawer o’r gwaith – rheoli’r ardd natur a choetir er lles ymwelwyr a bywyd gwyllt – yn dibynnu ar arian a godir gan ein haelodau a’n cefnogwyr.
Mae gennym ddewis eang o blanhigion “cychwynnol”: perlysiau, blodau gwyllt, coed, planhigion lluosflwydd ac unflwydd. Maent yn fach ar y cyfan a’r pris yn rhesymol iawn.
Peidiwch â cholli allan! Dewch yn llu i Ymweld â Thŷ Hyll yn fuan iawn.