Mae Cymdeithas Eryri’n recriwtio

Ty Hyll

Swyddog Prosiect

Prosiect Tyfu Tŷ Hyll

Rhan amser, 15 awr yr wythnos. Bydd angen gweithio’n hyblyg.  Ar brydiau, efallai bydd cyfleoedd i weithio oriau ychwanegol (yn dibynnu ar arian).

Contract tymor sefydlog 1 flwyddyn, gellir ei adnewyddu’n flynyddol (yn dibynnu ar arian) dros gyfnod 2 flynedd y prosiect.  Cyfnod prawf 3 mis yn y lle cyntaf.

Cyflog £16700 – (pro rata)

CEFNDIR

Mae Cymdeithas Eryri yn elusen gofrestredig sy’n gweithio i ddiogelu, gwella a dathlu Parc Cenedlaethol Eryri.

Lleolir deilydd y swydd yn Caban, Brynrefail, ger Llanberis.  Bydd llawer iawn ond nid y cyfan o’n diwrnodau gwaith yn yr awyr agored sy’n gysylltiedig â’r swydd hon yn digwydd yn Tŷ Hyll ger Capel Curig.

Diolch i arian gan Gyfoeth Naturiol Cymru, rydym wedi ehangu ein prosiect gwirfoddoli, Prosiect Ecosystem Eryri, i gynnwys ein heiddo blaenllaw, Tŷ Hyll.

Gan adeiladu ar flwyddyn gyntaf lwyddiannus prosiect Tyfu Tŷ Hyll a blynyddoedd o waith ynghylch pryfed peillio, garddio er lles bywyd gwyllt a rheoli coetiroedd, bydd swyddog Tyfu Tŷ Hyll yn ennyn diddordeb y cyhoedd a gwirfoddolwyr trwy:-

  • ddatblygu a darparu cyfleoedd gwirfoddoli, addysg a chyfranogi ymarferol yn Tŷ Hyll, yn cynnwys garddio er lles bywyd gwyllt a rheoli’r coetir.
  • datblygu cyfleoedd hyfforddiant, yn enwedig trwy gydweithio â phartneriaid y Gymdeithas.
  • mynychu digwyddiadau mewn rhannau eraill o Ogledd Cymru yn achlysurol er mwyn gwella proffil gwaith y Gymdeithas.
  • recriwtio aelodau a gwirfoddolwyr newydd, a datblygu gwirfoddoli codi arian a’r gallu i godi arian yn Tŷ Hyll.

Bydd Swyddog Prosiect Tŷ Hyll yn cydweithio’n agos â Swyddog Prosiect Ecosystem Eryri, Rheolwr y Prosiect, a’r Ymddiriedolwr sy’n gyfrifol am Tŷ Hyll, a bydd yn atebol yn uniongyrchol i Reolwr y Prosiect.  Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am y gwaith beunyddiol o gydlynu ac arwain digwyddiadau yn Tŷ Hyll.

Mae’r swydd hon yn swydd ran amser, 15 awr yr wythnos. Er mwyn darparu rhaglen amrywiol o weithgareddau, mae hyblygrwydd o ran diwrnodau gwaith yn hanfodol, a bydd angen gweithio ar benwythnosau a gyda’r hwyr ar brydiau.

DISGRIFIAD SWYDD

Prif Gyfrifoldebau

  • Gweithio gyda Rheolwr y Prosiect i ddatblygu rhaglen ysbrydoledig o weithgareddau i wirfoddolwyr a’r cyhoedd.
  • Arwain gwaith gwirfoddol ymarferol, yn cynnwys, er enghraifft, diwrnodau gwaith yn y coetir, diwrnodau rheoli rhywogaethau ymledol a rheoli gwlypdiroedd yn Tŷ Hyll a mannau eraill yng nghyffiniau Eryri.
  • Cydlynu ac arwain digwyddiadau addysgol, hyfforddiant ac ennyn diddordeb y cyhoedd yn Tŷ Hyll.
  • Ymroi i recriwtio a chynorthwyo gwirfoddolwyr, gan ymateb i ymholiadau a darparu gwybodaeth.
  • Ymroi i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r Gymdeithas ac aelodaeth ohoni, rwy weithgareddau’r prosiect.
  • Gweithio i sicrhau y bydd elfennau o’r prosiect yn gynaliadwy ar ôl i’r cyfnod ariannu ddod i ben.
  • Cymryd cyfrifoldeb am hysbysebu a gweinyddu pob digwyddiad, yn cynnwys hysbysebion, archebion, cyfieithiadau, gohebiaeth, Cofnodion Iechyd a Diogelwch, ac asesu risgiau.
  • Darparu adroddiadau ysgrifenedig a ffotograffau o weithgareddau ar gyfer cofnodion y prosiect, gwefan a chylchgrawn y Gymdeithas, a chyfryngau cymdeithasol.
  • Trafod â phartneriaid i sicrhau fod y diwrnodau gwaith a’r digwyddiadau yn rhedeg yn ddidrafferth.
  • Cynnal a diweddaru’r gronfa ddata gwirfoddolwyr a darparu gwybodaeth ddiweddaredig ar gyfer cronfa ddata aelodau’r Gymdeithas.
  • Cynorthwyo Rheolwr y Prosiect â phob agwedd arall o waith y prosiect a gwaith y Gymdeithas yn ôl y galw.

 

MANYLEB PERSON

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn ymarferol a rhadlon sydd â syniadau creadigol a’r gallu i ysbrydoli gwirfoddolwyr a’r cyhoedd.

Bydd gennych brofiad a gwybodaeth o:-

  • arwain a gweithio gydag amrywiaeth eang o wirfoddolwyr yn yr awyr agored;
  • gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill;
  • rheoli cefn gwlad / gwarchod natur / rheoli coetiroedd;
  • gweithio mewn cymunedau a sefydliadau dwyieithog

Mae angen ichi feddu ar hunan-gymhelliant, y gallu i ddatrys problemau a sgiliau cyfathrebu rhagorol, a dylech chi allu cymell grwpiau amrywiol o bobl i gyflawni nodau tasgau gan sicrhau fod gwirfoddoli yn brofiad pleserus, cyffrous a gwerth chweil i bawb.

Fel rhan o’r gwaith, bydd angen i chi gyfathrebu’n effeithiol ag aelodau’r gymdeithas, gwirfoddolwyr, sefydliadau partner a’r cyhoedd, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Byddwch yn gallu defnyddio technoleg gwybodaeth yn fedrus ac yn hyderus.

Mae trwydded yrru gyfredol, eich cerbyd eich hun, ac yswiriant defnydd busnes yn hanfodol oherwydd bydd rhywfaint o’r gwaith yn digwydd ar draws Eryri a bydd angen cludo deunyddiau/offer llaw i leoliadau’r gwaith. Ad-delir milltiredd ac eithrio am deithio i’r swyddfa

SUT I WNEUD CAIS

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, ffoniwch Mary-Kate Jones ar 01286 685498.

Mae ein ffurflen gais safonol ar gael yn http://www.snowdonia-society.org.uk/wp-content/uploads/2016/05/Standard-Job-Application-Form.doc neu gallwch ffonio’r swyddfa ar 01286 685498 neu ffoniwch y swyddfa ar 01286 685498.

E-bostiwch y ffurflen at mary-kate@snowdonia-society.org.uk, neu postiwch y ffurflen ar Mary-Kate Jones, Cymdeithas Eryri, Caban, Brynrefail, Gwynedd, LL55 3NR.

Dyddiad cau: 10:00 31 Mai 2016

Cynhelir cyfweliadau ar: 8 Mehefin 2016

Caiff ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer eu hysbysu erbyn: 2 Mehefin 2016

Dyddiad cychwyn arfaethedig: Cyn gynted ag y bo modd

Comments are closed.