Helpwch ni i ddiogelu dyfodol un o fannau mwyaf arbennig Eryri.
Mae angen gwarchod Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Noddun rhag cynnig gan RWE i adeiladu cynllun ynni dŵr ar raddfa ddiwydiannol ar hyd darn 2 gilomedr o afon Conwy. Mae’r rhan hon o’r afon o bwys cenedlaethol aruthrol oherwydd ei bywyd gwyllt a’r golygfeydd hardd. Mae’n un o’r mannau digyffwrdd hynny ble gall pobl brofi rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.
Pe caniateid y datblygiad hwn, byddai’n achosi llanastr llwyr yn ystod y cyfnod adeiladu. Byddai gwacau 2km o’r afon yn achosi niwed tymor hir i’r poblogaethau pysgod, y planhigion prin a’r misglod perlog, ac i brosesau naturiol yr afon.
Mae Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Noddun wedi syfrdanu, ysbrydoli a chyfareddu pobl ers canrifoedd. Helpwch ni i sicrhau y byddant yn parhau felly ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Gwrthwynebwch y cais cynllunio hwn cyn 23 Medi
Mae gennym ni hyd at ddydd Gwener 23 Medi i sicrhau fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cael neges glir ynghylch pa mor bwysig yw’r lle hwn i bobl.
Isod, mae templed o lythyr y gallwch ei gopïo a’i olygu fel y mynnwch, yna dylech ei lofnodi a’i anfon – mae cyfeiriadau post ac e-bost ar y llythyr yn barod. Dylai eich llythyr gyfeirio at y ffaith fod y cynllun yn mynd yn groes i bolisïau’r Parc Cenedlaethol.
Gweithredwch yn syth: po fwyaf o wrthwynebiadau a geir, y cliriaf fydd y neges.
Diolch yn fawr iawn am gyfranogi.
At: Mr Richard Thomas
Swyddog Cynllunio
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF
Ffôn 01766 770272 ffacs 01766 771211
Cyf: Cais Cynllunio NP4/26/323A – cynllun ynni dŵr 5MW yn cynnwys cored mewnlif, lein beipiau danddaearol a thwnel, pwerdy tanddaearol, ystafell offer switsio ac adeilad newidydd, mannau caeedig dros dro at ddibenion adeiladu, mannau parcio a newidiadau i fynediad i gerbydau.
Annwyl Mr Thomas,
Ysgrifennaf atoch i fynegi fy ngwrthwynebiad cryf i’r datblygiad hwn oherwydd bydd yn arwain at effeithiau niweidiol sylweddol yn y tymor hir ar Barc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r cynnig yn mynd yn groes i brif ddibenion y Parc Cenedlaethol ac mae’n groes i bolisïau allweddol, fel y manylir isod:
Polisi Strategol A: Dibenion y Parc Cenedlaethol (i) Rhoi’r flaenoriaeth bennaf i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol..
Mae’r gored crynhoi dŵr arfaethedig a’r adeileddau arllwys/cludo dŵr yn adeileddau gwneud newydd sylweddol mewn tirwedd afon sydd heb ei difetha ac sy’n werthfawr iawn o ran ei rhinweddau gweledol.
Byddai’r cynllun yn para o leiaf 30 mlynedd a bwriad presennol yr ymgeisydd yw y byddai’r strwythurau hynny yn parhau fel nodweddion parhaol yn yr afon, hyd yn oed ar ôl digomisiynu. Byddai’r cynllun felly yn arwain at effeithiau niweidiol tymor hir i harddwch naturiol rhan eiconaidd o’r Parc Cenedlaethol.
Mae’r Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd yn cydnabod effeithiau niweidiol tymor hir gan y strwythurau newydd ar rywogaethau, yn cynnwys pysgod mudol. Mae tystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Pysgota yn awgrymu y bydd yr effeithiau hynny yn sylweddol a byddai’r mesurau lliniaru arfaethedig yn annhebygol o leihau’r niwed i lefel dderbyniol.
Mae planhigion a chen isaf Ffos Noddun o bwys cenedlaethol. Mae llawer o’r rhywogaethau yn dibynnu ar leithder. Bydd llai o lif yn yr afon yn effeithio’n niweidiol yn y tymor hir ar fryoffytau ceunentydd sy’n dibynnu ar leithder, ac mae cryn ansicrwydd ynghylch yr effeithiau penodol. Mae Penderfyniad Apêl APP/Q6810/X/16/516168 yr Arolygiaeth Cynllunio yn sail i ddeall effeithiau, ansicrwydd a’r egwyddor o ragofal o ran cynlluniau ynni dŵr mewn safleoedd dynodedig.
Ni ellir gorbwysleisio harddwch Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Noddun. Maent yn atyniadau sy’n denu ymwelwyr i Eryri ers dros 200 mlynedd, ac maent wedi dylanwadu ar feirdd ac arlunwyr y Mudiad Rhamantaidd, wedi helpu i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o hanes diwylliannol Cymru ac wedi sefydlu awydd gan y cyhoedd i fwynhau golygfeydd mynyddig a thirweddau hardd. Ers cyhoeddi cerdd ddylanwadol Thomas Gray ‘The Bard’ yn 1757, mae Rhaeadr y Graig Lwyd wedi ysbrydoli gwaith gan artistiaid enwog hyd heddiw (gweler er enghraifft ‘The Bard’ gan John Martin).
Daeth Rhaeadr y Graig Lwyd yn un o’r mannau anhepgor hynny i ymwelwyr ymweld â hwy wrth chwilio am elfennau aruchel Eryri, ac mae’n parhau felly. Caiff pobl eu denu a’u cyffwrdd yn ddwys gan faint, grym a harddwch naturiol llwyr y rhaeadr a’r ceunant. Byddai dofi ‘gwaed ewynnog afon Conwy’ yn warth a byddai’n golygu fod Eryri yn le llai deniadol ac aruchel i bobl yn y dyfodol.
Polisi Strategol A: Dibenion y Parc Cenedlaethol (ii) Hybu cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parciau Cenedlaethol
Mae Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Noddun yn lleoliadau eiconaidd yn Eryri, ac mae digonedd o rinweddau arbennig ar gael i bobl eu mwynhau. Byddai’r cynllun arfaethedig yn effeithio’n ddifrifol ar y rhinweddau arbennig a mwynhad pobl ohonynt yn ystod y cyfnod adeiladu, a bydd yn eu difrodi yn barhaol. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr mewn lleoliad amlwg iawn, â strwythurau newydd mawr, a bydd hynny’n arwain at lai o lif yn yr afon a dirywiad mewn bioamrywiaeth. Bydd hyn yn cyfrannu’n sylweddol at leihau’r mwynhad cyffredinol o’r rhinweddau arbennig ac yn niweidio statws y Parc Cenedlaethol fel lle sy’n enwog am y rhinweddau arbennig hynny. Bydd yr ardal leol a’r Parc Cenedlaethol cyfan yn llai hardd, yn llai tawel, yn llai bioamrywiol ac yn cynnig llai o ysbrydoliaeth o ganlyniad i’r datblygiad hwn.
Bydd grwpiau penodol o ddefnyddwyr yn profi effeithiau niweidiol penodol ar eu mwynhad o’r rhinweddau arbennig o ganlyniad uniongyrchol i’r datblygiad arfaethedig, wrth ei adeiladu a phan fydd yn weithredol. Mae’r grwpiau defnyddwyr hyn yn cynnwys – ymhlith eraill – caiacwyr, ymwelwyr, ffotograffwyr, artistiaid, pobl sy’n ymddiddori mewn bywyd gwyllt a busnesau lleol.
Polisi Strategol A: Dibenion y Parc Cenedlaethol (iv) Gwarchod a gwella bioamrywiaeth nodweddiadol Eryri.
A
Pholisi Strategol D: Amgylchedd Naturiol
- Caiff adnoddau naturiol, bioamrywiaeth, geoamrywiaeth a ‘Rhinweddau Arbennig’ Parc Cenedlaethol Eryri eu diogelu rhag datblygiadau amhriodol.
- Ni ddylai cynigion effeithio yn andwyol ar fioamrywiaeth y Parc Cenedlaethol gan gynnwys safleoedd dynodedig yn amrywio o lefel ryngwladol i lefel leol, yn ogystal ag adnoddau bioamrywiaeth ehangach e.e. cynefinoedd a rhywogaethau tu allan i safleoedd dynodedig.
- Yn achos datblygiadau sy’n effeithio ar safleoedd â dynodiad cenedlaethol, dylai’r lleoliad, dyluniad ac adeiledd y datblygiad wedi’i wneud yn y fath fodd fel bod y difrod i nodweddion cadwraeth natur yn cael ei liniaru, a manteisir ar gyfleoedd i warchod natur.
Geomorffoleg yr afon:
Bydd y gored crynhoi dwr yn amharu ar brosesau naturiol cludo a dyddodi gwaddodion, gan arwain at effeithiau andwyol ar forffoleg a chynefinoedd yr afon, ac oherwydd hynny, bydd hi’n annhebygol y caiff statws Cyfarwyddeb Fframwaith Dwr afon Conwy ei gynnal. Yn ôl penderfyniad Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yng Ngorffennaf 2015 ynghylch achos C-461/13 mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddyletswydd i ‘wrthod awdurdodi prosiect unigol a allai achosi dirywiad yn statws corff o ddŵr wyneb neu os bydd yn bygwth y posibilrwydd o sicrhau statws dŵr wyneb da neu botensial ecolegol da a statws cemegol dŵr wyneb erbyn y dyddiad a bennwyd gan y gyfarwyddiaeth’.
Mae’r datblygwr yn cynnig, yn dilyn digwyddiadau llif uchel, y bydd yn rhaid iddynt mae’n debyg symud deunyddiau’n rheolaidd o’r rhan o’r afon uwchlaw’r gored i’r rhan sydd islaw y gored trwy gydol oes 30 mlynedd y cynllun. Rydym ninnau, fel y datblygwr, yn bryderus iawn hefyd y gwnaiff hyn achosi i ddyddodion man gael eu gollwng i’r dyfrgwrs yn rheolaidd, gan niweidio rhywogaethau pysgod, infertebratau a chynefinoedd rhywogaethau eraill. Mae dogfennau’r cais yn cynnwys ffigyrau gwahanol am uchder y gored, sy’n ei gwneud hi’n amhosibl i unrhyw un asesu effeithiau posibl yn gywir.
Rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig
Bydd y datblygiad yn effeithio’n andwyol yn y tymor hir ar y rhywogaethau a’r cynefinoedd canlynol a restrir yn adran 7 yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sef rhywogaethau a chynefinoedd “hynod bwysig at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.”
- Afonydd
- Anguilla anguilla llysywen Ewropeaidd
- Petromyzon marinus Lamprai’r môr
- Salmo salar Eog yr Iwerydd
- Salmo trutta Sewin
- Margaritifera margaritifera Misglod perlog
- Casgliadau o fryoffytau ceunentydd cefnforol
Mae’r pysgod a’r rhywogaethau o infertebratau hefyd yn rhywogaethau a warchodir dan reoliadau Cynefinoedd Ewrop.
Mudo pysgod
Mae’r datblygwr yn cydnabod fod effaith crynhoi a thynnu dŵr ar bysgod yn dal yn ansicr. Er y caiff hynny ei grybwyll yn yr EIA, ni atodir yr EIA Pysgodfeydd wrth y cais, a rhaid mynd i’r afael â hynny. Mae’n amlwg y bydd y gored yn rhwystr i rywfaint o symudiadau pysgod, a chynigir y caiff hyn ei liniaru gan lwybr pysgod, ond mae hyd yn oed y datblygwr yn nodi y caiff rhai pysgod eu hatal rhag symud trwy hwn. Mae llwybr pysgod newydd yn rhwystr y mae’n rhaid i bysgod mudol lywio drwyddo, a gallai hynny achosi newid yn eu hymddygiad a’u gwneud yn agored i effeithiau megis ysglyfaethu a photsio. Mae’r datblygwr yn cydnabod fod y mesurau lliniaru a gynigir i hwyluso symudiadau gleisiaid ger y gored wedi’u profi’n wael (eog neu frithyll ifanc, a restrir fel rhywogaethau blaenoriaethol o dan adran 7 Deddf yr Amgylchedd, sy’n disodli adran 42 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig), sy’n groes i’r honiad yn Adran 14.2.2 yr EIA sy’n nodi “trwy’r asesiadau, dim ond mesurau lliniaru y mae lefel uchel o sicrwydd y gellir eu gweithredu’n llwyddiannus sydd wedi cael eu hystyried o ran lleihau effeithiau a allai fod yn sylweddol fel arall”. Credwn fod hyn yn hollol annerbyniol.
Nodweddion Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Ffos Noddun
Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Ffos Noddun wedi’i ddynodi felly oherwydd ei fioamrywiaeth a’r niferoedd o fwsoglau, llysiau’r afu, rhedyn a chen a geir yno. Mae’r rhan o’r afon a fyddai’n cael ei gwagio o ddŵr gan y cynllun arfaethedig ymhlith y 10 safle pwysicaf yng Nghymru ar gyfer bryoffytau ceunentydd (mwsoglau a llysiau’r afu). Mae cyfoeth llysiau’r afu yn rhanbarthau cefnforol gorllewinol Prydain ac Iwerddon, megis y rhai sydd i’w canfod yn Rhaeadr y Graig Lwyd, o bwys byd-eang. Mae’r amrywiaeth helaeth o blanhigion isaf sydd i’w canfod yma yn dibynnu ar ac yn adlewyrchu rhyngweithiad cymhleth rhwng lleithder yr aer a chwistrelliad, tryddiferiad a llif y dŵr. Ychydig iawn o sylfaen dystiolaeth tymor hir sy’n bodoli y gellir ei ddefnyddio i asesu effeithiau tynnu dŵr o nentydd ac afonydd ar gymunedau planhigion o’r fath. Dywed CNC “Mae lefel y cydnerthedd bron iawn yn amhosibl i’w fesur, ac felly hefyd y tebygolrwydd o niwed i fryoffytau y SoDdGA” (Ymateb gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gais am wybodaeth rhif ATI-07250a )
Fel canran o lif naturiol yr afon, mae’n debyg y caiff y cyfansymiau mwyaf o ddŵr eu tynnu pan fydd llifeiriant “bychan-canolig”. Mae’n ymddangos fod cyfraniad llif yr afon at gynnal lleithder uchel Ffos Noddun yn ostod y llifoedd canolig hyn yn anhysbys.
Mae gan y safle hon werth unigryw a byd-eang ar gyfer planhigion is, ac mae tystiolaeth annigonol i asesu effaith tebygol y cynllun arfaethedig arnynt, felly os caniateir i’r cynllun fynd rhagddo, byddai CNC ac APCE yn methu â chynnal eu dyletswydd i “gynnal a gwella bioamrywiaeth, a thrwy wneud hynny, hybu cydnerthedd ecosystemau”.
Misglod Perlog ac ansawdd dŵr
Nid ydym yn hyderus y gall Misglod Perlog a’r ansawdd dŵr y maent yn ddibynnol arno gael eu gwarchod yn ystod camau adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw a digomisiynu cynllun o’r maint hwn, ac nid ydym yn hyderus ychwaith y gall y mesurau lliniaru a gynigwyd eu rheoli’n ddigonol. Ceir enghreifftiau o ddifrod i ansawdd dŵr wrth adeiladu cynlluniau llawer llai yn Eryri a mannau eraill, e.e. <http://www.express.co.uk/news/uk/378622/Hydro-firm-fined-for-destroying-glen-s-freshwater-pearl-mussels>
Coetir hynafol
Bydd y llwybr troed arfaethedig, y trac at y mewnlif, waliau’r mewnlif, a’r strwythur gollwng dŵr yn dinistrio 08.Ha o’r hyn sy’n “goetir hynafol” dynodedig yn ein tyb ni. Yn ôl Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 7 – Gorffennaf 2014) Llywodraeth Cymru, “Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn gynefinoedd na ellir eu hadfer os ydynt yn cael eu colli. Maent yn werthfawr iawn am eu bioamrywiaeth, a dylid eu diogelu rhag datblygiadau a fyddai’n achosi difrod sylweddol .” Mae adroddiad diweddar Cyflwr Natur – Cymru (2016) yn datgan mai “Dim ond 12% o goetiroedd yng Nghymru sy’n hynafol ac yn lled-naturiol, ac mae llawer ohonynt wedi dirywio ac yn dameidiog”. Mae llawer o’r ychydig goetiroedd hynafol sy’n weddill yng Nghymru wedi’u lleoli mewn mannau anhygyrch megis y ceunant hwn, ac rydym yn credu fod cynllun sy’n mynd i ddifrodi un o’r ychydig ddarnau o goetiroedd hynafol sy’n weddill yn annerbyniol.
Rydym yn disgwyl y gwnaiff CNC gadarnhau statws y llecyn fel “coetir hynafol”, ac os caiff hynny ei gadarnhau, byddwn yn disgwyl iddynt ei amddiffyn yn gadarn.
Effeithiau Cronnus Cynlluniau Niferus
Nid yw effeithiau cronnus niferoedd o gynlluniau tynnu a chronni dŵr HEP ar lednentydd Conwy Uchaf (e.e. Nant Cerrig-nâdd, Afon Iwrch, Hafnant) wedi cael sylw digonol yn EIA y datblygwr. Rydym yn disgwyl i CNC wneud asesiad llawn o’r effeithiau cronnus, a chyfraniad y cynnig hwn tuag atynt.
Glaswelltir corsiog heb ei wella
Rydym bellach yn deall fod yr ymgeisydd bellach yn cynnig defnyddio coridor y lein beipiau fel llwybr cludo, ac rydym yn asesu y caiff oddeutu 0.5 Ha o laswelltir (cynefin o bwys mawr ar gyfer Gwarchod Amrywiaeth Biolegol o dan Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU/Deddf yr Amgylchedd S.7) ei golli yn barhaol, ac yn lle hynny, mae’n debyg y daw coridor o frwyn meddal yn ei le, ac nid yw hynny’n gwneud iawn am golli cynefin prin.