Rhodd Eryri yn codi £3,250 er budd dyfodol Eryri!

Mae Rhodd Eryri wedi codi dros £3,250 mewn chwe mis yn unig!

Mae’r cyllid cyntaf o’r cynllun arbrofol hwn yn cael ei roi i Gymdeithas Eryri i’n cynorthwyo â’n gwaith ymarferol gyda phobl ifanc.  Diolch i haelioni pawb sydd wedi cyfrannu at gynllun Rhodd Eryri a’r busnesau lleol sydd wedi gweithredu’r cynllun, gall Cymdeithas Eryri fuddsoddi yn y dyfodol.

Bydd gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn gweithio’n galed i gynnal llwybrau troed Eryri, clirio rhododendron a chasglu sbwriel.  Bellach, caiff y gwirfoddolwyr hynny gyfle i gwblhau uned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol, a gaiff ei hachredu gan Agored Cymru.  “Bydd ar bobl ifanc sy’n ymgeisio am swyddi angen yr holl gymorth y gallant ei gael, a bydd y dystysgrif hon yn caniatáu i’n gwirfoddolwyr ddangos i ddarpar gyflogwyr beth yw’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth maent wedi’u datblygu” meddai Mary-Kate Jones, Rheolwr y Prosiect ar ran Cymdeithas Eryri.  “Rydym ni mor ddiolchgar i bawb sy’n gysylltiedig â Rhodd Eryri; fe wnaiff y cyfraniad hwn wahaniaeth go iawn!”

Diolch o galon i’r busnesau gwych hynny sydd wedi ymaelodi â chynllun Rhodd Eryri hyd yn hyn.  I wybod rhagor ynghylch Rhodd Eryri, sut gall eich busnes chi gyfranogi neu sut gallwch chi gyfrannu, trowch at y wefan yma.

 

Comments are closed.