Newid mân… mynyddoedd o wahaniaeth!
Mae Eryri o dan fygythiad oherwydd ei phoblogrwydd ei hun a’r nifer cynyddol o bobl sy’n mwynhau’r Parc – dros 6 miliwn o bobl bob blwyddyn!
Cynllun newydd sy’n annog pob un ohonom i roi newid mân i helpu i arbed Eryri yw Rhodd Eryri. Gallwch roi ar-lein, trwy gwasanaethau a busnesau sy’n cymryd rhan ac mewn nifer o ffyrdd eraill.
Cofrestrwch fel busnes
Mae nifer o fusnesau lleol wedi cofrestru yn y sgîm ac yn helpu mewn gwahanol ffyrdd i gasglu ar ran Rhodd Eryri. Darllenwch ragor fan hyn, neu cysylltwch â nhw ar 01766 515946.
Prosiectau
Bydd Rhodd Eryri’n gweithio mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr Chymdeithas Eryri i gynorthwyo gyda:
- Mynyddoedd: Llwybrau Mynydd yr Wyddfa
- Iseldir a’r Cymoedd: Taith Gylchol yr Wyddfa
- Pobl: Pobl Ifanc a Sgiliau Traddodiadol
Gweinyddir Rhodd Eryri gan Fenter Môn ar ran Partneriaeth Eryri a busnesau sy’n cymryd rhan.