Cyfarchion y tymor a diolch am ofalu am Eryri

ar drothwy blwyddyn arbennig iawn i Gymdeithas Eryri.

Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn ddiddorol i’r Gymdeithas, ac wrth i derfyn y flwyddyn agosáu, hoffem ddiolch o galon i bob un o’n ffrindiau a chefnogwyr.

Rydym yn awyddus iawn i ddiolch i bob un person – ac mae cannoedd ohonoch – sydd wedi cefnogi’n weithredol ein hymgyrch i achub afonydd Eryri ac afon Conwy’n arbennig. Mae lefelau digynsail o ymgysylltu â’r cyhoedd wedi codi’r mater hwn i’r golau. Oni bai i chi, fyddai’r teirw dur eisoes ar y safle, yn tyllu un o leoedd mwyaf eiconig Eryri.

Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer nodi pen-blwydd hanner cant y Gymdeithas. Chwiliwch allan am ragor o fanylion ym mis Ionawr.Mae Mary-Kate, Tamsin ac Owain yn dymuno, “Nadolig Llawen​ i Bawb​! ​Mae ein gwirfoddolwyr wedi gweithio dros 3,000 awr yn 2016 – ​ mae hwn yn gyflawniad gwych! Diolch yn fawr i bawb am eich gwaith caled ac am eich cymorth dros y flwyddyn!”

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn 2017!

(Llun: Chantrey Wood)

Comments are closed.