Mae Cymdeithas Eryri’n recriwtio

Swyddog Cyfathrebu ac Aelodaeth

Mae Cymdeithas Eryri yn elusen cadwraeth sy’n gweithio’n galed i warchod a gwella Eryri.  Bydd y Gymdeithas yn gwneud gwaith cadwraeth ymarferol ac yn ymgyrchu i amddiffyn rhinweddau arbennig yr ardal, ac mae’n berchen ar Tŷ Hyll, adeilad eiconaidd sydd â gardd bywyd gwyllt a choetir hyfryd.

Rydym ni’n dymuno penodi Swyddog Cyfathrebu ac Aelodaeth i ddarparu angor cryf i’n gwaith.  Rydym ni’n chwilio am unigolyn gweithgar sy’n ymddiddori mewn cadwraeth ac yn dymuno gwneud gwahaniaeth sylweddol mewn sefydliad bychan.

Bydd y Swyddog Cyfathrebu ac Aelodaeth yn cydweithio’n agos â’r staff eraill ac Ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr y Gymdeithas. Mae’r gwaith yn cynnwys gweinyddu gofalus iawn, cyfathrebu creadigol trwy amrywiaeth o gyfryngau, a datblygu perthnasoedd â’n teulu o aelodau a chefnogwyr.

Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm bychan, ymroddgar, a byddwch yn gwneud cyfraniad allweddol at ein gwaith:

  • fel prif bwynt cyswllt i aelodau, sef sylfaen y sefydliad;
  • datblygu a darparu gwaith recriwtio aelodau a chodi arian effeithiol;
  • cynorthwyo ein tîm cadwraeth trwy hyrwyddo eu gwaith yn effeithiol;
  • cynorthwyo ein Cyfarwyddwr i gynhyrchu deunyddiau a negeseuon effeithiol ynghylch ymgyrchoedd;
  • cynorthwyo Ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr eraill i’w galluogi i gyfrannu’n llawn at waith y Gymdeithas;

Mae hon yn swydd barhaol, pedwar diwrnod yr wythnos.  Bydd y cyflog, yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd a ddewisir, yn uchafswm o £24,000 pro rata.

I gael trafodaeth anffurfiol cysylltwch â Chyfarwyddwr y Gymdeithas, John Harold.

I wneud cais, llenwch ein Ffurflen Gais safonol.

E-bostiwch y ffurflen at mary-kate@snowdonia-society.org.uk, neu postiwch y ffurflen at Mary-Kate Jones, Cymdeithas Eryri, Caban, Brynrefail, Gwynedd, LL55 3NR.

  • Dyddiad cau derbyn ceisiadau: hanner dydd, dydd Llun 17 Gorffennaf
  • Ymgeiswyr a ddewisir ar gyfer cyfweliad: Dydd Llun 24 Gorffenaf
  • Cyfweliadau: Dydd Mercher 2 Awst

DISGRIFIAD SWYDD

Lleolir deiliad y swydd yn Caban, Brynrefail, ger Llanberis.

Cronfa ddata aelodau a gwirfoddolwyr: rheoli’r gronfa ddata a chyfathrebu ag aelodau yn feunyddiol, ymateb i ymholiadau ac yn cynnwys agweddau rheoli ac ariannol prosesu tanysgrifiadau, Debydau Uniongyrchol, Cymorth Rhodd a chyfraniadau.

Gwasanaethau i aelodau a chyfathrebu: rheoli’r gwaith hwn gan sicrhau safon uchel iawn, gan adlewyrchu pwysigrwydd sylfaenol yr aelodau i’r Gymdeithas.

Recriwtio aelodau: fel rhan o strategaeth codi arian ehangach, nodi cyfleoedd i recriwtio aelodau a sicrhau fod adnoddau a chymorth rhagorol yn eu lle.  Ysbrydoli staff eraill, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr i recriwtio aelodau yn effeithiol.

Codi arian: Gweithio gyda staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr eraill, arwain gwaith y Gymdeithas o ran creu, cefnogi a darparu adnoddau ar gyfer gweithgareddau codi arian priodol, monitro cynnydd mewn cymhariaeth â chynlluniau gweithredu ynghylch codi arian, a datblygu’r strategaeth codi arian. Rheoli cyfraniadau, gwerthiannau nwyddau, ac arian a godir.

Gwefan: cyfrifoldeb am sicrhau fod y wefan yn rhedeg yn ddidrafferth, datrys problemau a rheoli ansawdd.

Cyfryngau cymdeithasol: sicrhau fod yr holl gyfathrebiadau yn ategu negeseuon, gweithredoedd a gweithgareddau’r Gymdeithas.

Y cylchgrawn: comisiynu, casglu, golygu, rheoli ansawdd, dylunio a gosod ein cylchgrawn dwyieithog rhagorol ddwywaith y flwyddyn. Bydd cymorth sylweddol i wneud y gwaith hwn yn ystod y cyfnod cychwynnol o leiaf.

Digwyddiadau:  Gyda staff eraill, trefnu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas a goruchwylio’r gwaith o sicrhau fod ein rhaglen sylweddol ac amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn rhedeg yn ddidrafferth, a chydlynu’r rhaglen a darparu cyhoeddusrwydd yn ei chylch.

Swyddfa:  goruchwylio adnoddau a sicrhau fod ein swyddfa fechan a chyfeillgar yn rhedeg yn ddidrafferth ac effeithlon.

Tŷ Hyll: darparu cymorth gweinyddol effeithiol ar gyfer eiddo blaenllaw y Gymdeithas.

Cynnal gwaith yn ddwyieithog: sicrhau fod y Gymdeithas y cyfathrebu’n effeithiol ac yn gyson yn Gymraeg ac yn Saesneg.


 

MANYLEB PERSON

 

Hanfodol

  • Gallu profedig i drefnu, gwneud gwaith amlorchwyl, a blaenoriaethu tasgau gweinyddol gan roi sylw i fanylion;
  • Gallu cyfathrebu’n fedrus yn Gymraeg ac yn Saesneg – byddwch yn siarad ac yn ysgrifennu yn y ddwy iaith yn ddyddiol;
  • Cryf ei gymhelliant ac yn gallu creu syniadau newydd a’u gweithredu;
  • Sgiliau datrys problemau rhagorol;
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol;
  • Profiad o ddylunio a gosod amrywiaeth o gyfryngau – gwefannau, posteri, taflenni, llyfrynnau, cylchgronau;
  • Profiad o waith rheoli arian rheolaidd – yn enwedig Cymorth Rhodd, Debyd Uniongyrchol a thaliadau ar-lein;
  • Sgiliau TG rhagorol – gallu rheoli cronfeydd data, taenlenni, y wefan a chyfryngau cymdeithasol.

 

Dymunol Iawn

  • Profiad o godi arian a recriwtio aelodau mewn sefydliad dielw;
  • Sgiliau codio sylfaenol i wneud gwaith datblygu gwefannau;
  • Gwybodaeth am dirweddau, cadwraeth a Pharc Cenedlaethol Eryri a’u cyd-destun lleol, a dealltwriaeth o hynny;
  • Profiad o drefnu a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau;
  • Profiad o waith gweinyddu mewn perthynas ag eiddo.

Comments are closed.