Bydd cronfa Dringo’r Wyddfa 2016 yn mynd at apêl ‘Mend Our Mountains’ Clwb Mynydda Prydain
Bydd RAW Adventures yn tywys llawer iawn o bobl i fyny’r Wyddfa. Bob blwyddyn, byddant yn cyfrannu £1 at Gymdeithas Eryri am bob unigolyn byddant yn ei dywys. Bydd y cyfraniad hwn yn cynorthwyo gwaith cadwraeth y Gymdeithas ar yr Wyddfa ac yn y cyffiniau. Darllenwch ragor.
Mae arian RAW Adventures yn golygu y gall Cymdeithas Eryri drefnu rhagor o ddiwrnodau gwaith gwirfoddol ar y mynydd, clirio sbwriel a chynnal a chadw llwybrau i leihau erydu, llifogydd a difrod arall. Yn sgil y cefndir hwn o gydweithio er budd yr Wyddfa, mae’r ddau sefydliad wedi penderfynu defnyddio eu hadnoddau i wneud gwaith mawr ei angen ar lwybrau troed ac maent wedi addo rhoi cymorth ariannol eleni at ymgyrch ariannu torfol BMC, ‘Mend our Mountains’.
Llwybr Watkin yn elwa o waith atgyweirio llwybrau
Yr addewid hwn, sy’n werth cannoedd o bunnoedd, yw ein dull ni o gynorthwyo â gwaith atgyweirio llwybrau mawr ei angen ar fynydd sy’n derbyn nifer sylweddol iawn o ymwelwyr, yn cynnwys ni! Ni all unrhyw ddulliau cyfrifol o reoli grwpiau nac addysg wneud i ni hofran uwchlaw’r llwybr rydym ni arno.
Mae ‘Mend our Mountains’ wedi cael sylw sylweddol yn y newyddion ers ei lansio yng nghanol Mawrth. Mae Cymdeithas Eryri yn cyfrannu at y gwaith hwn, ac mae rhan uchaf Llwybr Watkin wedi cael ei bennu fel un o’r mannau problemus a fydd yn elwa o waith atgyweirio llwybrau tir uchel.
A wnaiff llwybrau gwell gynyddu’r pwysau ar y mynydd?
Dyma bwnc sensitif bob tro; bydd pobl yn holi a wnaiff llwybrau gwell achosi rhagor o bwysau ar y mynydd mwyaf poblogaidd hwn. Fe wnaethom ni holi BMC am hyn, a chawsom sicrwydd yn sgil eu hatebion:
“…caiff cynllun a manyleb y gwaith ar y llwybrau eu cytuno â’r BMC cyn ei ariannu… Byddai’r holl waith yn cydymffurfio â’r safonau a gytunwyd yn flaenorol gan yr Ymddiriedolaeth Llwybrau Troed Uwchdirol… mewn gwirionedd, mae’r ‘llwybr’ bellach yn sawl llwybr – ceir creithiau a rhigolau sylweddol ar draws y wyneb deheuol… Bydd llawer o gerddwyr yn dilyn llwybr uniongyrchol i lawr yr wyneb o’r copa, gan greu llwybrau newydd ac achosi rhagor o erydu mewn llecyn a ddylai fod o ddiddordeb botanegol a chadwraethol sylweddol, ond caiff ei sathru gan gerddwyr sy’n mentro oddi ar y llwybrau i osgoi rhigolau wedi’u herydu a thirlithriadau.”
Rydym yn falch o addo cymorth. Allwch chi helpu?
Mae RAW Adventures a Chymdeithas Eryri yn falch o addo eu cymorth ariannol. Tybed a allwch chi feddwl am ffordd o gynorthwyo ‘Mend Our Mountains’?
–