Digwyddiadau Mis Ebrill yn Nhŷ Hyll!

Gardd Dy Hyll

P’un a ydych am ein helpu ni i ofalu am y coetir neu ymuno â ni ar arolwg Amffibiaid ac Ymlusgiaid … Dyma beth sy’n digwydd yn Dŷ Hyll mis Ebrill !!

Pob Dydd Llun – Garddio Bywyd Gwyllt: Cyfle i helpu i gynnal a chadw gardd a choetir hardd Tŷ Hyll

2il a 3ydd o Ebrill –  Cyfle i ddarganfod Tŷ Hyll: Ydych chi erioed wedi meddwl sut y cafodd Tŷ Hyll ei enw? Neu beth yn union sy’n mynd ymlaen yn yr adeilad hudol hon? A oeddech chi’n gwybod bod yno ardd bywyd gwyllt a choetir yn llawn creaduriaid bach diddorol yno? Os ydych yn aml yn gyrru heibio a meddwl ‘ mae angen i mi bigo i fewn i fan yno un diwrnod ‘, yna dyma’ch cyfle i ddarganfod beth sy’n digwydd yma! Dewch draw i archwilio y coetir godidog a’r ardd bywyd gwyllt hardd, cewch wybod am waith gwych Cymdeithas Eryri neu hyd yn oed ymlacio a mwynhau te a chacen o flaen y tân – mae rhywbeth i bawb cael mwynhau! Bydd gweithgareddau i blant yn rhedeg drwy gydol y dydd , gan gynnwys rholio cannwyll a hau hadau! Cysylltwch â ni os hoffech chi gael gwybod mwy!

17eg o Ebrill – Gweithdy Adnabod ac Arolwg Mamaliaid: Ymunwch â ni am ddiwrnod cyffrous ac yn llawn mamaliaid yn Nhŷ Hyll! Dan arweiniad arbenigwyr lleol, Sam Dyer, Becky Clews – Roberts a Dave Thorpe, byddwn yn darganfod sut i adnabod rhywogaethau ac y gwahanol dechnegau arolwg ar gyfer amryw o famaliaid – popeth o ystlumod i chwistlod dŵr! Bydd y gweithdy hwn yn addas i’r rhai sydd eisiau dysgu mwy am ecoleg mamaliaid , y rhai sydd yn chwylio am brofiad ymarferol mewn technegau arolygu neu hyd yn oed os ydych ond yn chwilfrydig am y creaduriaid bach diddorol! Bydd y sesiwn yn bennaf yn yr awyr agored, felly mae pâr o esgidiau da, dillad cynnes a dillad dal dŵr yn hanfodol! Bydd ystafell dê Pot Mêl ar agor ar gyfer lluniaeth a chinio – neu , wrth gwrs, dewch â chinio eich hun! **Cludiant am ddim o Fangor a Chaernarfon**

26ain o Ebrill – Gwaith yn y Coetir: Mae’r gwaith o gynnal a chadw ein coetir ysblennydd yn dibynnu ar haelioni ein tîm rhagorol o wirfoddolwyr ymroddedig. Pa un ai a hoffech helpu â’n harolwg o adar neu rywbeth mwy corfforol fel cynnal llwybrau troed, ymunwch â ni i fynd i’r afael â thasgau’r mis hwn yn y coetir!

30ain o Ebrill – Gweithdy Adnabod ac arolwg amffibiaid a ymlusgiaid: O dan arweiniad Dr John Wilkinson, ecolegydd amffibiaid ac ymlusgiaid sydd gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn ei swydd, mae’r cwrs hwn ar gael I unrhyw un sydd eisiau darganfod mwy am ecoleg amffibiaid ac ymlusgiaid Prydeinig, ac i’r rhai sydd yn anelu wella’ eu sgiliau adnabod ac arolwg! Mi fydd y cwrs yn rhedeg trwy’r dydd – yn y bore mi fydd John yn esbonio agweddau gwahanol o fywyd ymlusgiaid ac amffibiaid Prydeinig gan gynnwys eu ecoleg ac y gwahanol ddulliau arolwg, ac yna mi fydd sesiwn ymarferol gyda’r nôs I chwylio am madfallod! Mi fydd cyfle rhwng y ddau sesiwn i ymweld a thafarn lleol i hel ein boliau! Mae llefydd yn gyfyngedig ar y cwrs felly mae angen cysylltu gyda ni oflaen llaw os oes diddordeb mewn cymeryd rhan gennych! **Cludiant am ddim o Fangor a Chaernarfon**

Cysylltwch gyda bethan@snowdonia-society.org.uk am fwy o wybodaeth!

Comments are closed.