Cais cynllunio Conwy hydro wedi ei dynnu

Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Noddun yn ddiogel am rwan…

Mae Cymdeithas Eryri yn falch o gyhoeddi fod Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Noddun wedi cael eu harbed, am y tro, rhag y bygythiad o ddatblygiad ynni dŵr ar raddfa ddiwydiannol. Rydym yn gobeithio y bydd yn parhau i ymhyfrydu yn y rhan drawiadol hon o Afon Conwy am genedlaethau lawer.

Cyfrannwch i Achubwch Afonydd Eryri

 

Mae’r datblygwyr, RWE, wedi tynnu eu cais yn ôl mewn ymateb i’r ffaith y byddai caniatâd cynllunio yn sicr o fod wedi cael ei wrthod pe bai’r cais wedi cael ei gyflwyno ger bron Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Parc Cenedlaethol Eryri ar 12 Hydref. Mae hyn yn dilyn datblygiad arwyddocaol, sef  Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi ei safbwyntiau ac yn mynegi ‘pryderon sylweddol’ am y cynllun. Mae hyn yn dilyn ymgyrchu dwys gan Gymdeithas Eryri a’n cyfeillion yn sefydliad Achubwch Afon Conwy i sicrhau fod y cais yn cael ei archwilio’n briodol.

Mae Cymdeithas Eryri wedi gwneud cyfraniad arweiniol at lawer iawn o’r ymgyrch yn erbyn y cais hwn a’r cais tebyg iawn a wnaed y llynedd. Rydym wedi rhoi pwysau sylweddol ar y Parc Cenedlaethol ac Adnoddau Naturiol Cymru i wneud eu gwaith yn iawn, ac wedi ysgrifennu ymatebion manwl ac wedi holi a stilio ynghylch eu gwaith yn drylwyr. Uchafbwynt ein gwaith yn y cyfryngau oedd sylw cenedlaethol ym mhapur newydd y Times a newyddion chwech o’r gloch Radio 4 yn gynnar ym mis Medi. Fe wnaethom ni gomisiynu ein harolwg ecolegol ein hunain o rannau o Ffos Anoddun i gwmpasu’r elfennau oedd ar goll o asesiad y datblygwr o’r effaith ar yr amgylchedd, ac fe wnaethom ni gomisiynu adroddiad polisi cynllunio proffesiynol. Mae’r ymgyrch wedi defnyddio llawer iawn o’n hadnoddau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond credwn fod Afon Conwy yn haeddu cael ei hamddiffyn yn y fath fodd.

Hoffai Cymdeithas Eryri ddiolch o galon i’r holl sefydliadau a’r unigolion sydd wedi cyfrannu at wrthwynebu’r cynnig hanner pob a niweidiol hwn. Mae bob llythyr at Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyfrannu at y canlyniad llwyddiannus hwn i Afon Conwy, ei bywyd gwyllt prin a thirwedd y Parc Cenedlaethol. Rhaid rhoi canmoliaeth arbennig i waith diflino Achubwch Afon Conwy, ac i’r gefnogaeth gref gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, yr Ymddiriedolaeth Coedlannau, yr Ymgyrch dros y Parciau Cenedlaethol, Cyngor Mynydda Prydain, y Ganolfan Hyfforddiant Mynydda Genedlaethol ym Mhlas y Brenin a llawer rhagor. Mae llawer o sefydliadau eraill wedi gwneud cyfraniad allweddol yn eu meysydd arbenigol hwy, megis yr Ymddiriedolaeth Genweirio, Canŵ Cymru ac Eryri Bywiol. Mae Aelod y Cynulliad dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, a Chyngor Cymuned Betws y Coed wedi cynrychioli eu hetholwyr yn rhagorol. I bob un o’r rhain a phawb arall sydd wedi gweithredu i achub yr afon hardd hon, hoffem ddiolch yn dalpiau iddynt!  Gallwch weld fideo byr o rai o’r ymgyrchwyr yma.

Rydym ni’n gobeithio y bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ailystyried eu dulliau o werthuso cynlluniau o’r fath, o gychwyn y broses gynllunio hyd at ei therfyn. Mae angen dull strategol o warchod afonydd Eryri, a dylid asesu’r effeithiau cronnus ar systemau afonydd a sicrhau amddiffyniad trylwyr ar gyfer y mannau mwyaf sensitif trwy gyfrwng y prosesau cynllunio a rhoi caniatâd i dynnu dŵr.  Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel tirfeddiannwr allweddol a fyddai wedi elwa’n ariannol o’r cynllun bellach yn llais unig o blaid y cynllun niweidiol hwn – rydym yn gobeithio y byddant yn penderfynu, er yn hwyr yn y dydd, i roi natur yn gyntaf ac ildio eu cefnogaeth.

Cyfrannwch i Achubwch Afonydd Eryri

Comments are closed.