Yn eisiau: Cefnogwyr Cymdeithas Eryri ar gyfer Her Eryri 2018

Yn eisiau: Cefnogwyr Cymdeithas Eryri ar gyfer Her Eryri 2018

breeseMae Breese Adventures, cwmni lleol sy’n aelod busnes o Gymdeithas Eryri, yn gwahodd gwirfoddolwyr codi arian a stiwardiaid i fod yn rhan o’u her dygnwch tri diwrnod gyffrous y mis Mehefin hwn. 

Mae’r Snowdonia Challenge yn brawf o ddygnwch meddyliol a chorfforol a gwaith tîm, a chaiff ei gynnal yn y mynyddoedd a’r coedwigoedd godidog o amgylch Betws y Coed.  Bydd her eleni yn cychwyn ddydd Gwener 29 Mehefin ac yn gorffen ddydd Sul 1 Gorffennaf.

Cysylltwch os hoffech chi:

  1. Gyfranogi (am un diwrnod, dau ddiwrnod neu’r tri diwrnod)
    Awydd rhoi cynnig arni? Beth am gyfranogi fel unigolyn neu dîm a helpu i godi arian i Gymdeithas Eryri? E-bostiwch claire@snowdonia-society.org.uk os hoffech chi gynorthwyo i godi arian at waith Cymdeithas Eryri yn amddiffyn y Parc Cenedlaethol.
  2. Helpu gyda stondin Cymdeithas Eryri
    Bydd gennym ni stondin ym Metws-y-coed yn ystod Her Eryri ac yn edrych am wirfoddolwyr i helpu gyda chyhoeddusrwydd ar y diwrnod. E-bostiwch claire@snowdonia-society.org.uk os hoffech chi helpu.
  3. Gwirfoddoli fel stiward (am un diwrnod, dau ddiwrnod neu bob un o’r tri diwrnod)
    Helpwch i gyfeirio ac annog cerddwyr ar hyd y llwybr – ffordd wych o gefnogi’r digwyddiad lleol hwn a chwrdd â phobl newydd.  E-bostiwch tracey@breeseadventures.co.uk os hoffech chi wirfoddoli fel stiward.


    Peidiwch â methu’r cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad chwaraeon cyffrous sy’n dangos cyfrifoldeb tuag at yr ardal leol. I gael rhagor o wybodaeth, trowch at wefan swyddogol y digwyddiad yma. Welwn ni chi yno.

Comments are closed.