Ein hwythnos gwirfoddoli orau erioed!

Yr wythnos diwethaf, aeth grŵp o’n gwirfoddolwyr i weithredu’n ymarferol am bum diwrnod!   Â’u hoffer yn barod, fe wnaeth y criw weithio’n galed i warchod a gwella gwahanol rannau o’r parc cenedlaethol arbennig – ffordd wych o ddod i’w adnabod!  Cynhaliwyd gweithgaredd gwahanol pob dydd, felly roedd rhywbeth at ddant pawb – pa un ai a oeddent yn dymuno cynnal a chadw llwybrau troed hynod boblogaidd yr Wyddfa neu glirio ffromlys chwarennog o Ardal Cadwraeth Arbennig.

Volunteer week 3

Mae gwirfoddolwyr yn cynnal a chadw llwybrau ar Yr Wyddfa efo’r Wardeniaid Yr Wyddfa

Dywedodd Claire Powell wrthyf i mae ei hoff ddiwrnod “heb os nac oni bai oedd y diwrnod pan wnaethom ni helpu i glirio rhan o blanhigfa coed conwydd yn Abergwyngregyn. Roedd gweithio fel tîm a gwybod y bydd ein gwaith y diwrnod hwnnw yn helpu coed cynhenid i dyfu yn y dyfodol yn brofiad gwirioneddol werth chweil”.  Gweithiodd ein gwirfoddolwyr yn galed i glirio glasbrennau conwydd o lecyn yng Nghoedydd Aber, Gwarchodfa Natur Genedlaethol a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).  Ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos gwirfoddoli, fe wnaethom ni gydweithio â warden CNC, Huw Green, i glirio glasbrennau conwydd i annog coetir llydanddail cynhenid i adfywio.

volunteer week 2

Mae gwirfoddolwyr yn clirio jac y neidiwr yn Bala

Mae Danny Moffatt yn fyfyriwr sy’n wastad yn ceisio ehangu ei sgiliau, a gwirfoddolodd i gael rhywfaint o brofiad ymarferol. Roedd wrth ei fodd yn cael elwa o’r profiad hwn yn ein Parc Cenedlaethol prydferth.  Dywedodd fod “y gwaith yn ddifyr ac yn werth chweil, ac roedd yn ddiddorol dros ben dysgu am y technegau cadwraeth a ddefnyddir wrth weithio mewn rhannau mor drawiadol o Gymru.

Dywedodd Claire hefyd ei bod hi “wedi cael hwyl aruthrol yn ystod yr wythnos!  Mae cael cyfle i gwrdd â phobl newydd, dysgu s
giliau newydd a defnyddio offer newydd wedi bod yn ddifyr dros ben.
Mae pob diwrnod wedi cynnig her gyffrous newydd, ac mae cael cyfle i grwydro o amgylch rhagor o Ogledd Cymru wedi bod yn wych.”

Diolch o galon i Claire, Danny a phawb arall a ymunodd â ni i sicrhau mai wythnos gwirfoddoli eleni oedd yr un orau hyd yn hyn! Fe wnaethon nhw gyfrannu ymhell dros 200 awr o waith ymarferol er budd Eryri – ar adeg pan mae toriadau yn y gyllideb yn golygu fod angen dirfawr am hynny! Da iawn pawb!

Diolch yn fawr iawn i’n partneriaid:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Parc Cenedlaethol Eryri
  • Bryn Gwynant Youth Hostel
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Comments are closed.