Rheoli’r Wyddfa – seminar

Mae’n bleser gan Cymdeithas Eryri gefnogi’r fenter ardderchog hon.

AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL ERYRI : datganiad i’r wasg

Rheoli’r Wyddfa

Yn Llanberis, nos Lun Tachwedd 9fed, bydd wythnosau o ymgynghori ar ddyfodol yr Wyddfa yn cyrraedd ei uchafbwynt.

Mewn seminar yng Ngwesty’r Fictoria yn Llanberis, nos Lun, Tachwedd 9fed am 18.30 o’r gloch, bydd dros 80 o bobl yn dod ynghyd i drafod a mynegi barn ar faterion sy’n ymwneud â rheoli effaith hamddena ar yr Wyddfa. Y cyfarfod hwn yw penllanw cyfres o gyfarfodydd ymgynghori a gynhaliwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf ar gyfer trigolion, busnesau lleol a defnyddwyr eraill.

Ymhlith y pynciau a godwyd eisoes yn y cyfarfodydd er enghraifft oedd:

  • A ddylai’r cwmnïau sy’n trefnu digwyddiadau ar yr Wyddfa dalu am y fraint honno?
  • Oes angen buddsoddi mwy yn y gwaith o gynnal a chadw’r llwybrau ar Yr Wyddfa?
  • Sut mae lleihau’r sbwriel ar Yr Wyddfa?
  • Oes angen gwneud mwy o ddefnydd o enwau Cymraeg ar Yr Wyddfa?
  • A ddylid gwahardd cŵn ar yr Wyddfa?

Mae’r trafodaethau hyd yma wedi dangos cryfder barn pobl am bwysigrwydd gwarchod buddiannau mynydd mwyaf eiconig Cymru a bydd y seminar nos Lun yn Llanberis yn gyfle i gytuno ar y ffordd orau ymlaen.

Yn arwain ac yn cymryd rhan yn y Seminar yn Llanberis bydd  cynrychiolwyr o Bartneriaeth yr Wyddfa. Mae aelodau’r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cymdeithas Eryri, Cynghorau Gwynedd a Chonwy, cwmni Rheilffordd yr Wyddfa, Cyfoeth Naturiol Cymru, Fforwm Mynediad y Gogledd, Eryri Bywiol yn ogystal ag undebau ffermwyr a’r timau achub lleol. Mae’r rhain i gyd yn sefydliadau sy’n ymwneud yn ddyddiol mewn rhyw fodd neu’i gilydd â rheoli’r mynydd, boed yn cynnal a chadw llwybrau, gwaith gwirfoddol, hybu twristiaeth, ffermio defaid a gwartheg, gwaith cadwraeth neu achub.

Mae adroddiad llawn o’r cyfnod ymgynghori hyd yma ar gael ar www.partneriaethyrwyddfa.co.uk.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Llinos Angharad, Swyddog Cyfryngau a Digwyddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 01766 772237 neu 07766 255509.

 

Comments are closed.