Gwarchodfa Awyr Dywyll i Eryri

snowdonia_dark_skiesMae Cymdeithas Eryri yn falch iawn fod, yn dilyn ein awgrym, y Parc Cenedlaethol yn hyrwyddo’r ymgyrch hon. Ymwelwch â un o’r sesiynau galw i mewn i gael gwybod mwy am yr ymgais am statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol i Eryri.


Diweddariad – 4/12/15
Yn Abergynolwyn heddiw,
cyhoeddir fod Eryri bellach yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, y degfed drwy’r byd.


Erbyn hyn, mae llygredd golau yn broblem fawr gynyddol ar hyd ac ar led Prydain. Gall defnyddio gormod o olau neu olau anaddas fod yn gostus, gall adael gormod o ôl troed carbon, a gall fod yn  niweidiol i’r tirlun ac yn bendodol i fywyd gwyllt y nos. I’r perwyl hwn, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am ymgeisio am statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol i Eryri.

Fel rhan o’r gwaith cychwynnol, bu rhai o staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gwirfoddolwyr o Gymdeithas Eryri ac eraill yn cofnodi golau yn y nos ac fe gomisiynwyd yr arbenigwyr golau James Paterson a Malcolm Mackness, i gynnal arolwg o oleuadau yn Eryri. Gyda chymorth gwirfoddolwyr ac wedi oriau o arolygu, fe ddaethpwyd i’r casgliad fod gan Eryri wir botensial fel cyrchfan i ymwelwyr awyr dywyll, a bod yr awyr dywyll yn Eryri yn hynod o werthfawr ac o’r herwydd fe ddylai’r Awdurdod ei warchod.

Ar ran yr Awdurdod, dywedodd  y Cyfarwyddwr Cynllunio a Threftadaeth Jonathan Cawley,

“Fedrwn ni ddim anwybyddu manteision bod yn ardal sydd wedi ei dynodi’n Warchodfa Awyr Dywyll. Bydd bywyd gwyllt yr ardal yn cael ei ddiogelu, bydd ansawdd yr amgylchedd yn gwella, a bydd atyniad naturiol newydd i ddenu ymwelwyr newydd i Eryri ar gyfnodau tawel o’r flwyddyn. Bydd hyn yn ei dro yn gwella’r economi leol a bydd awyr dywyll Eryri yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Fyddwn ni ddim yn mynnu fod goleuadau nos yn cael eu diffodd a fyddwn ni ddim yn gofyn i neb wario symiau mawr o arian yn newid eu holl oleuadau! Y cyfan ofynnwn ni yw i bobl addasu eu defnydd o olau. Mae’n bwysig i ni esbonio mwy a chael cydweithrediad trigolion Eryri yn hyn o beth. Rydym felly wedi paratoi cyfres o gyfleoedd i’r cyhoedd gyfarfod a thrafod oblygiadu’r statws gyda’n swyddogion.”

Am fwy o fanylion, cyswylltwch â Gethin Davies yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, 01766 770274.