Ymgynhoriad Glyn Rhonwy

Glyn_rhonwy_daily_post

Delwedd: Daily Post

Y broblem

Mae Snowdonia Pumped Hydro Ltd (SPH) wedi cael caniatâd cynllunio gan Gyngor Gwynedd am ddatblygiad storfa bwmp 49.9MW yng Nglyn Rhonwy, ac maent bellach yn gwneud cais i ddyblu maint y prosiect i 99.9MW.

Bygwthiad o beilonau newydd?

Rydym yn pryderu y gallai’r datblygiad yn golygu peilonau newydd yn amharu ar olygfeydd eiconig yng ngogledd Eryri, ac nad oes unrhyw fesurau i ddiogelu yn erbyn hyn ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn pryderu am yr effeithiau posibl ar fynediad, ac ar gyrff dŵr lleol gan gynnwys Llyn Padarn.


Yn fanwl

Mae’r cais hwn yn cael ei drin ar hyn o bryd fel ‘prosiect seilwaith mawr’ gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.

Fel rhan o’r broses o wneud cais mae’n ofynnol ar SPH i ymgynghori ar eu cynlluniau. Mae Cymdeithas Eryri wedi gwneud nifer o gyflwyniadau i ymgynghoriad y datblygwr.

Cylwyniadau Cymdeithas Eryri

Dolenni

Prosiect Glyn Rhonwy ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol (Saesneg yn unig)

Gwybodaeth am y ddatblygwr: Snowdonia Pumped Hydro – Glyn Rhonwy

 Concerned About Glyn Rhonwy? Ymgyrch lleol ar Facebook

 Loving our Lake‘ grwp cymunedol yn Llanberis, sy’n gweithio i warchod Llyn Padran at y dyfodol.

Cymdeithas Eryri ar Facebook

Sut gallech helpu

Rhannwch y dudalen hon

Ymaelodwch â Chymdeithas Eryri

Cyfrannu

Ewch i ein tudalen Facebook am ragor o drafodaeth

Darllenwch ragor ar dudalen Facebook Concerned About Glyn Rhonwy?

Cyfrinach Glyn Rhonwy

Gwyliwch y fideo hon am y chwarel. Postwyd y fideo ar y dudalen Facebook Concerned About Glyn Rhonwy?

 

Glyn Rhonwy

Glyn Rhonwy (Delwedd gan Snowdonia Pumped Hydro)