Gwahoddir ffotograffwyr i fynegi diddordeb.
Mewn perthynas â digwyddiadau ein hanner can mlwyddiant, mae Cymdeithas Eryri
yn chwilio am ddelweddau rhagorol sy’n denu’r sylw, yn cyfleu’r canlynol:
- ein gwirfoddolwyr yn gweithio yn nhirwedd ddramatig Eryri
- picnic ein hanner can mlwyddiant ar 10 Mehefin
Rydym ni’n rhagweld y bydd ychydig o ddiwrnodau o waith (2 – 2.5 diwrnod) rhwng 5 Mehefin a 10 Mehefin (nid yw’r dyddiadau a’r lleoliadau wedi’u cadarnhau’n derfynol eto). Rhaid i ffotograffwyr allu dangos tystiolaeth o’u gwaith.
I fynegi diddordeb neu gynnig dyfynbris, e-bostiwch mary-kate@snowdonia-society.org.uk