Rydym yn teimlo’n angerddol am y lle hwn – ei dirlun hyfryd, bywyd gwyllt, pobl, treftadaeth a’r iaith Gymraeg hyfryd.
Rydym yn gweithio gyda phawb, o wirfoddolwyr lleol i Lywodraeth Cymru, o ffermwyr a grwpiau cymunedol i fusnesau a sefydliadau cadwraeth o bob maint.
Yn arfogi gwirfoddolwyr i glirio sbwriel o le rydych chi’n ei garu
Yn darparu hyfforddiant sgiliau ymarferol i berson ifanc
Dewiswch eich swm eich hun i’w gyfrannu
Fel elusen gadwraeth a thirlun y Parc Cenedlaethol, mae llawer o’n gwaith yn ymarferol – cynnal a chadw llwybrau, clirio sbwriel, mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol, a rheoli pob math o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.
Rydym yn rhoi rhaglen wirfoddoli fwyaf Eryri ar waith, sy’n cael ei threfnu’n broffesiynol a’i harwain gan ein staff cyfeillgar. Rydym yn creu miloedd o gyfleoedd bob blwyddyn ac yn helpu pobl o bob lliw a llun i gymryd rhan ymarferol mewn gwarchod mannau hardd a bywyd gwyllt gwerthfawr. Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith yma
Adeilad hardd sy’n llawn o hanes a dirgelwch, gyda gardd fywyd gwyllt, coedlan frodorol ac ystafell de
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk