Oes ots gennych am ddyfodol Eryri? Os oes, peidiwch a gadael dim ond olion traed. Ewch gam ymhellach a gadewch olion parhaus.
Mae rhoddion o ewyllysiau yn rhan hanfodol o’n hincwm, ac mae llawer o gymynroddion bychan yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r hyn gallwn ei gyflawni. Os byddwch yn ysgrifennu eich ewyllys, wedi i chi gofio eich teulu a’ch ffrindiau, ystyriwch adael cymynrodd i Gymdeithas Eryri os gwelwch yn dda.
Mae gadael cymynrodd i elusen yn gostwng y dreth etifeddiant sy’n ddyledus ar eich ystâd, a mae gadael mwy na 10% o werth eich ystad i elusen yn lleihau eich cyfradd treth etifeddiant gyffredinol. (Gweler gwefan Cyllid a Thollau EM).
Pan fyddwch yn ysgrifennu neu’n golygu eich ewyllys, mae sawl dull o adael cofrodd i Gymdeithas Eryri.
Gallwch hefyd gofyn i eich teulu a’ch ffrindiau gyfrannu at Gymdeithas Eryri yn lle rhoi blodau. Neu gallwch enwi Cymdeithas Eryri i dderbyn rhoddion er eich cof.
Byddem yn ddiolchgar iawn am eich rhodd, un nai’n fach neu’n fawr, bydd yn cael ei roi i ddefnydd da i helpu i ddiogelu tirwedd odigog Eryri ymhell i’r dyfodol.
Nid oes neb yn byw am byth. Ond braf fyddai gwybod eich bod wedi gwneud eich rhan i ddiogelu bywyd gwyllt a thirwedd Eryri er mwyn i’n plant a’n wyrion gael eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk