Datgelu hanes cudd

Crib mynyddoedd y Carneddau yw un o’r tirluniau hyfrytaf a chyfoethocaf o ran hanes ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae Cymdeithas Eryri wedi bod yn gweithio’n ymarferol i gadw a gwarchod yr archeoleg a’r bywyd gwyllt sy’n golygu bod y tirlun hwn mor arbennig. Mae’r Gymdeithas wedi bod yn gwneud hyn o ganlyniad i’w rhan ym mhroject Partneriaeth Tirlun y Carneddau. 

Cynllun 5-mlynedd ydy hwn a arweinir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae llawer o gyrff eraill, yn cynnwys Cymdeithas Eryri, yn cymryd rhan fel partneriaid craidd. Cyn hyn, bu Cymdeithas Eryri yn cymryd rhan mewn dwy agwedd o’r project – clirio llystyfiant o henebion dynodedig, ac ymgysylltu â chymunedau i glirio jac-y-neidiwr.    

Mae tymor nythu’r adar yn digwydd rhwng mis Mawrth a mis Medi felly rydym yn rhoi’r gorau i glirio prysgwydd am y tro fel na fyddwn yn aflonyddu ar rywogaethau adar uchelderau’r Carneddau. Mae’r egwyl byr hwn yn gyfle da i rannu faint o gynnydd sydd wedi digwydd.   

Ers mis Medi 2021 rydym wedi bod yn clirio eithin o ddau safle ger Abergwyngregyn. Ar un safle rydym wedi dadorchuddio gweddillion dau gwt crwn o fewn llecyn a amgylchynir gan wal gerrig hirgrwn sy’n dyddio, mae’n debyg, o ddiwedd yr Oes Haearn oddeutu 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Rydym hefyd wedi dadorchuddio rhai rhannau eraill o wal sy’n weddillion cloddiau caeau, mae’n debyg. Efallai bod y rhain hefyd yn gyn-hanesyddol, ond mae’n bosib eu bod yn ganoloesol gan fod safleoedd cytiau canoloesol gerllaw. 

 

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio ar safle Carnedd y Saeson ger Abergwyngregyn a rhai carneddau eraill gerllaw. Mae adroddiadau’n awgrymu bod saith carnedd yma. Hyd yma rydym wedi dadorchuddio tair ohonyn nhw. Mae’r un mwyaf trawiadol, Carnedd y Saeson ei hun, yn bentwr cylchol isel oddeutu 14m o led; nodir yr ochrau gan gerrig mawr. Mae rhan o ail gylch o gerrig wedi goroesi ychydig y tu mewn i’r cyntaf. Yn y canol mae cist, pydew hirsgwar gyda slabiau cerrig ar ei ochrau, lle byddai claddedigaeth wedi digwydd. Mae’r pentwr o gerrig a fyddai wedi gorchuddio’r gladdfa wedi hen ddiflannu. Mae’r safleoedd claddu yma’n dyddio i’r Oes Haearn, oddeutu 4,000 o flynyddoedd yn ôl.  

 

Wrth glirio’r eithin o’r safle hwn mae’r strwythurau wedi dod i’r golwg, gan alluogi archeolegwyr i’w archwilio am y tro cyntaf ers dechrau’r 1900au. Mae clirio’r eithin hefyd yn golygu na fydd anifeiliaid sy’n tyrchu, fel cwningod, yn cloddio o dan y gwrychoedd a fyddai’n difrodi’r archeoleg. Meddai Kathryn Laws, archeolegwr gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gweithio ar y project, “Rŵan bod y safleoedd wedi eu clirio, bydd yn bosibl rhoi arolygon mesur ar waith i greu cynlluniau daear newydd, tra bydd ffotograffau sy’n gorgyffwrdd a dynnwyd o gerbyd awyr heb-yrrwr (drôn) yn sicrhau delweddau eglurder uchel i ni o’r safleoedd o’r awyr”. Bydd yn gyffrous iawn gweld beth fydd canlyniadau’r archeolegwyr o ganlyniad i holl waith dygn ein gwirfoddolwyr a gwaith parhaol yr arbenigwyr.  

 

 Bydd clirio’r eithin hefyd yn sicrhau budd ychwanegol wrth ddarparu mwy o dir i rywogaethau lleol eiconig fel y frân goesgoch allu tyrchu am fwyd. Mae’r frân goesgoch yn dibynnu ar borfa fer i gael mynediad at yr infertebratau sy’n fwyd iddi. Bydd y gwaith hwn, gobeithio, yn annog heidiau mawr o frain coesgoch i ddychwelyd i’r Carneddau.  

Byddem yn argymell i bawb ymweld â’r safle er mwyn gweld safleoedd lle byddai cymunedau hynafol y Carneddau’n hela, ffermio a byw. Mae cael cipolwg ar y cytiau crwn o ochr arall y cwm yn rhoi persbectif o raddfa’r safle a chymaint o waith a wnaed gan ein gwirfoddolwyr gwych.