Perchennog Tŷ Hyll yw Cymdeithas Eryri, sydd hefyd yn edrych ar ei ôl. Yn bencadlys y Gymdeithas ar un pryd, mae’r tŷ bellach yn gartref i ystafell de y Pot Mêl, a weinyddir yn annibynnol (Gweler gwaelod y dudalen am fanylion cyswllt.) Galwch heibio am deisen neu ginio blasus! Tra byddwch yno gallwch ddysgu mwy am Gymdeithas Eryri a’n gwaith, prynu Hadau i Wenyn a gynhyrchir yn lleol, a gweld ein hystafell arddangosfa i fyny’r grisiau, lle cewch ddysgu mwy am wenyn mêl a’u gwaith peillio hanfodol.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk