Oeddech chi’n ymwybodol fod gwaith Cymdeithas Eryri ar faterion cynllunio ac ymatebion polisi yn gwbl ddibynnol ar gefnogaeth hael ein haelodau drwy eu rhoddion a thaliadau tanysgrifiad. Byddwn yn gallu gwneud mwy os gallwn godi arian ychwanegol.
Codi arian ymarferol
Fe all fod yn syml neu’n athrylith, yn fach neu’n fawr. Os oes gennych chi syniad am weithgaredd neu ddigwyddiad codi arian, hoffem glywed oddi wrthych. Cysylltwch yma. Beth bynnag yw eich syniad, byddem yn falch o’ch helpu i sicrhau bod eich cariad am Eryri yn troi’n ofal ymarferol am yr hyn yr ydym i gyd yn ei werthfawrogi – y mannau arbennig, y byd natur a’r dreftadaeth o’n cwmpas.
Rydym yn ffodus bod gennym gefnogaeth gref gan aelodau, gwirfoddolwyr, cyrff sy’n bartneriaid a grwpiau cymunedol lleol. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod modd i ni wneud llawer mwy pe bai’r adnoddau gennym. Fel llawer elusen, rydym yn bryderus na fyddwn yn dibynnu gormod ar nawdd grant i gynnal llawer o’n gwaith. Gyda’ch cymorth chi gallwn greu model mwy cynaliadwy ar gyfer ariannu gwaith pwysig sydd o fudd i bobl a lleoedd ledled Eryri.
Felly, os ydych yn pryderu am Eryri, dyma’r amser i wneud panad, eistedd i lawr gyda phapur a phensel a nodi rhai syniadau am godi arian. Yna, cysylltwch er mwyn trafod sut allwn eich cefnogi i’w gwireddu. Gallwn wedyn ledaenu’r gair ac ysbrydoli eraill.
Byddwn yn gallu gwneud mwy os gallwn godi arian ychwanegol drwy godi arian.
Cysylltwch â peri@snowdonia-society.org.uk i gael sgwrs am eich syniad.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk