Mae cwmni o Ynys Môn, Camu i’r Copa, yn cynnal digwyddiad chwaraeon rhithiol y mis yma gyda 20% o’r tâl mynediad yn mynd tuag at waith Cymdeithas Eryri o warchod y Parc Cenedlaethol.
Yn y digwyddiad, Gwanwyn ar Waith, bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn rhedeg ac yn beicio pellter o rhwng 25-1000 cilometr o’u cartrefi, sydd gyfystyr â dringo grisiau i fyny Mont Blanc.
Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold: “Rydym wrth ein bodd bod cwmni lleol yn paru eu dyfeisgarwch yn yr argyfwng presennol gyda chyfrifoldeb i Eryri wrth ddewis Cymdeithas Eryri fel yr elusen i dderbyn tâl mynediad y sawl sy’n cymryd rhan.”
Ychwanegodd: “Bydd yr arian a gawn yn helpu i gefnogi ein rhaglen waith ymarferol o gasglu sbwriel, cynnal a chadw llwybrau ac adfer cynefinoedd yn Eryri, a fydd yn cychwyn eto unwaith y bydd yn bosibl gwneud hynny.”
Mae Cymdeithas Eryri yn ddiolchgar i Emma a’r tîm yn Camu i’r Copa am yr enwebiad. I wybod mwy ac i gymryd rhan gyda Gwanwyn ar Waith, cliciwch yma.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk