Blwyddyn orau erioed i’r Gymdeithas yn Ffair Hadau flynyddol ConwyBlwyddyn orau erioed i’r Gymdeithas yn Ffair Hadau flynyddol Conwy

Blwyddyn orau erioed i’r Gymdeithas yn Ffair Hadau flynyddol Conwy

Fe wnaeth y gwanwyn gychwyn o ddifrif yr wythnos diwethaf wrth i ddegau o stondinwyr ymgasglu yng nghanol tref hanesyddol Conwy i gyfranogi yn y Ffair Hadau flynyddol, a drefnir gan Wenynwyr Conwy.

Eleni, fe wnaeth Cymdeithas Eryri elw rhagorol o £290 wrth werth planhigion a hadau; dyma’r cyfanswm mwyaf ers i’r Gymdeithas gychwyn cyfranogi yn y digwyddiad blynyddol.

Dywedodd Margaret Thomas, un o ymddiriedolwyr y Gymdeithas:

“Rydym ni wrth ein bodd fod cynifer o bobl wedi ymddiddori yn ein planhigion a’n hadau eleni.  Mae’n debyg fod ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd planhigion sy’n llesol i bryfed peillio, a bydd llawer o bobl yn dewis rhywogaethau ar gyfer eu gerddi a wnaiff helpu gloÿnnod byw a gwenyn i fynnu.”

Ychwanegodd:  “O glychau’r gog i gribau San Ffraid, mae gennym ni gatalog o hadau a phlanhigion sy’n llesol i’r ardd, ac mae llawer ohonynt yn deillio o flodau gwyllt Tŷ Hyll.”

Yn ogystal â gwerthu planhigion, fe wnaeth dau aelod newydd ymuno â’r Gymdeithas ar y diwrnod, ac fe wnaeth degau o bobl ddod atom ni am sgwrs i ganfod sut gallant gyfrannu at y gwaith o warchod Eryri.

Gwreiddiau hanesyddol

Mae Cymdeithas Eryri yn gwerthu planhigion i godi arian er lles Eryri ers i’r Gymdeithas gael ei sefydlu gan Esmé Kirby yn 1967. Mae’r llun ar y dde yn dangos un o arwerthiannau planhigion enwog Esmé yn ystod y dyddiau cynnar hynny yn Nyffryn Mymbyr.

Helpwch i gynnal pryfed peillio

Os hoffech chi brynu rhai o’n Hadau er lles Gwenyn ar-lein, cliciwch yma.

Gallwch hefyd brynu ein hadau a’n planhigion sy’n llesol i bryfed peillio yn ystafell de Tŷ Hyll, ger Betws y Coed, ble gall aelodau o Gymdeithas Eryri gael 20{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} o ddisgownt!