Dydd Mawrth diwethaf wnaeth tîm o staff a ffrindiau Cymdeithas Eryri cymryd rhan yn gwis misol y Douglas Arms ym Methesda a chodwyd £64 tuag at waith y Gymdeithas mewn un noson.
Wnaeth y tîm o bump llwyddo i sgorio 52 o bwyntiau allan o 70 yn y cwis anodd, ond cafodd ei churo gan gwestiynau fel ‘Beth oedd opera unigol Beethoven?’ ymysg eraill!*
Yn y gwanwyn enwebodd meistr y cwis ag aelod y Gymdeithas Gareth Jones y Gymdeithas Eryri i dderbyn y rhoddion o’r digwyddiad misol, gan dangos parodrwydd ein haelodau i helpu codi arian i’r Gymdeithas.
Bydd rhoddion o gwis y Douglas yn mynd at ein Cronfa’r Dyfodol gyda tharged o £50,000 i nodi’r hanner canmlwyddiant – ac rydym ni’n 78{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} yno! Cliciwch yma i gyfrannu ac i helpu ni gyrraedd ein targed erbyn Ionawr 2018.
Beth am brofi eich gwybodaeth gyffredinol ac ymuno â’r cwis ar yr ail dydd Mawth o bob mis? Mae yna botel o win i’w ennill a bydd y rhoddion i gyd yn mynd tuag at ein gwaith wrth ofalyu am Eryri.
*Mae angen arbenigwyr mewn hanes cerddoriaeth ar gyfer y tîm! Cysylltwch os hoffech ymuno â ni ar gyfer y cwis nesaf, Dydd Mawrth 12 o Ragfyr.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk