Fe allwch chi helpu Eryri drwy wirfoddoli!

Mae Cymdeithas Eryri yn trefnu dyddiau cadwraeth rheolaidd i wirfoddolwyr i helpu i wella a chynnal harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ein gwirfoddolwyr yn mwynhau rhaglen reolaidd o orchwylion cadwraeth sy’n digwydd be bynnag fo’r tywydd, drwy gydol y flwyddyn.

Os ydych chi’n mwynhau gweithgareddau egnïol megis clirio Rhododendron ponticum a chynnal llwybrau amlwg yr Wyddfa neu wella eich medrau adnabod drwy gynnal arolygon bywyd gwyllt neu ddysgu nodweddion gwahanol gynefinoedd, mae gan ein prosiect rhywbeth i bob un ohonoch.

Beth rydym yn ei wneud a ble rydym yn ei wneud