Efallai nad oes gan jac-y-neidiwr enw mor ddrwg â chlymog Japan, ond mae ganddo ei enw drwg ei hun ymysg cadwraethwyr. Wrth i ddealltwriaeth o’r risgiau sy’n gysylltiedig â jac-y-neidiwr ledaenu ymysg y cyhoedd, mae’r alwad i fynd i’r afael â jac-y-neidiwr a rhywogaethau ymledol eraill nad ydyn nhw’n frodorol (INNS) yn ystod argyfwng bioamrywiaeth byd-eang, yn cynyddu. Mae’r momentwm i fynd i’r afael â’r rhywogaeth ymledol hon yn cynyddu, gyda galwadau cynyddol am fentrau tymor hir gan y llywodraeth i fynd i’r afael â’u lledaeniad a’u heffeithiau niweidiol. I ddarllen mwy am jac-y-neidiwr a’n gwaith yn mynd i’r afael ag ef y llynedd ewch draw i’n gwefan.
Ar hyn o bryd, mae’r angen i fynd i’r afael â’r mater hwn yn cael ei ateb gan grwpiau gweithredu lleol, unigolion brwdfrydig, a mentrau fel Partneriaeth Tirwedd y Carneddau. Fel partneriaid craidd ym Mhartneriaeth Tirwedd y Carneddau, ein nod yw sicrhau effaith barhaol ar jac-y-neidiwr yn rhanbarth y Carneddau, Eryri. Mae ein dull o weithredu’n cynnwys codi ymwybyddiaeth, hyfforddi gwirfoddolwyr, a chefnogi grwpiau gweithredu lleol yn eu hymdrechion i drin y planhigyn ymledol hwn.
Cychwynnodd tymor jac-y-neidiwr 2023 ar nodyn positif, gyda chyfarfod llwyddiannus a ddaeth a gwirfoddolwyr ymroddedig o wahanol gymunedau’r Carneddau at ei gilydd, ynghyd â chynrychiolwyr o Bartneriaeth Ogwen, Cyngor Gwynedd, ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Canolbwynt cychwynnol y cyfarfod hwn oedd rhannu gwybodaeth a chynnig strategaethau effeithiol ar gyfer mapio a rheoli jac-y-neidiwr. Yn ystod y cyfarfod hwn, cawsom ein cyflwyno i Amy Greenland o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE), a ymgymerodd â’r orchwyl anferth o fapio dosbarthiad jac-y-neidiwr ledled ardal gyfan y Carneddau. Mae’r mapiau isod yn dangos ffrwyth ei haf hir o arolygu ac yn nodi ei rôl hanfodol wrth gynllunio clirio strategol jac-y-neidiwr. Hefyd, mae’r mapiau yma’n tywys APCE wrth adnabod ardaloedd o bryder uchel ar gyfer difa jac-y-neidiwr. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyfuno gyda lleoliadau grwpiau gweithredu lleol prysur lle sicrheir yr effaith mwyaf arwyddocaol a thymor hir wrth gyflogi contractwyr i glirio lleiniau mawr lle mae’r jac-y-neidiwr yn bla.
Y tymor yma fe wnaethom ymrwymiad i hyfforddi gwirfoddolwyr a lledaenu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth drwy sesiynau hyfforddi achrededig. Ym mis Ebrill, cynhaliwyd ein sesiwn hyfforddi Cynllunio Rhywogaethau Ymledol achrededig cyntaf yng Nghlwb Rygbi Bethesda, gydag wyth o fynychwyr brwdfrydig. Y nod oedd sicrhau bod y mynychwyr yn gadael gyda’r hyder a’r gallu i drefnu ac arwain ymdrechion grwpiau o wirfoddolwyr, sicrhau caniatâd tirfeddianwyr a chynnal asesiadau risg i roi mesurau biodiogelwch a dulliau strategol o ddifa jac-y-neidiwr ar waith. Roedd hwn yn llwyddiant mawr, ac edrychwn ymlaen at gynnig y gwasanaeth hwn i fwy o bobl sy’n ystyried trefnu grwpiau gweithredu cymunedol.
Ym mis Mehefin, torchi llewis oedd ein hanes wrth i ni fynd i’r afael â’n gwaith jac-y-neidiwr ymarferol a chynnal sesiynau clirio cyhoeddus yng Nghrafnant, Bethesda a Rowen. Cyfanswm yr oriau a gyfrannwyd gan wirfoddolwyr eleni i glirio jac-y-neidiwr o’r Carneddau oedd 393 awr, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am eu hymdrechion. Ar y cyd â’n dyddiau ymarferol, trefnwyd hefyd sesiynau hyfforddi ymarferol ym Methesda a Chrafnant, gyda deg gwirfoddolwr yn cwblhau ein modiwl rhywogaethau ymledol ymarferol. Yma, cafodd y mynychwyr gyfle i fagu profiad ymarferol wrth adnabod a chlirio jac-y-neidiwr, yn ogystal ag achrediad swyddogol a thystysgrif gan Tec Wales i gydnabod eu gwybodaeth.
Rydym hefyd wedi cysylltu efo ysgolion cynradd lleol er mwyn ymgysylltu gyda’r genhedlaeth iau am fyd natur, cadwraeth, a phwysigrwydd gweithredu gwirfoddol lleol. Yn cymryd rhan roedd Ysgol Llangelynnin ac Ysgol Llanllechid. Fel gyda llawer o ysgolion o amgylch y Carneddau, roedd y jac-y-neidiwr yn agos iawn at eu hysgol. Roedd y sesiynau yma’n hynod o werth chweil, gyda disgyblion yn mwynhau gweld byd natur o’u cwmpas a chael rhwydd hynt i dynnu, malu a sathru jac-y-neidiwr. Llwyddwyd i gyfleu’r neges o ofalu am fyd natur, ac hefyd bod cadwraeth yn gallu bod yn hwyl!
Chwith uchod: Disgyblion o Ysgol Llangelynnin. De uchod: Disgyblion o Ysgol Llanllechid.
Eleni llwyddwyd i ledaenu gwybodaeth am fiodiogelwch yn fwy eang nag erioed o’r blaen, ac roedd hyn yn digwydd yn bennaf o ganlyniad i broject WaREN y Gymdeithas Byd Natur. Cawsom gitiau bioddiogelwch gan WaREN, a dosbarthwyd y rhain i’n holl wirfoddolwyr eleni i hyrwyddo mesurau bioddiogelwch positif, yn cynnwys y dull “Gwirio, Glanhau, Golchi” sydd wedi’i argraffu ar eu citiau. Mae’r citiau yma’n cynnwys arweinlyfr INNS, brwsh esgidiau gydag atodiad potel ddŵr, gwlanen, a glanhawr esgidiau. Mae dilyn yr arweiniad syml yma wedi diwrnod o drin jac-y-neidiwr yn gwneud gwahaniaeth enfawr wrth rwystro’r planhigyn rhag lledaenu gan fod ei hadau’n cael eu dal yn rhychau esgidiau a’u cludo i ardaloedd lle nad oes jac-y-neidiwr. Fe all gweithred syml fel gwirio eich esgidiau, eu brwsio a’u golchi atal lledaeniad jac-y-neidiwr ac ystod eang o blanhigion ymledol eraill.
Cyflwynwyd app mapio INNS gan y project WaREN hefyd, sef app cofnodi rhywogaethau ymledol anfrodorol hawdd ei ddefnyddio sy’n eich galluogi i edrych ar bob cofnod a ychwanegwyd ato yn rhad ac am ddim. Mae’r app hwn hefyd yn cynnwys sut i gofnodi gweithrediadau rheoli yr ymgymerwyd â nhw, sy’n sicrhau ei fod yn arf gwerthfawr i grwpiau cymunedol a chyrff ar gyfer gweithio’n strategol ac yn gydweithredol.
Diolch hefyd i’r artist Gillian Brownson o Ffiwsar. Ar ôl ymuno ag amryw o ddyddiau difa jac-y-neidiwr, mae Gillian wedi cynhyrchu pennod podcast difyr, sy’n rhoi profiad uniongyrchol o ddiwrnod ym mywyd gwirfoddolwr trin jac-y-neidiwr ymysg cymuned gwirfoddolwyr gweithgar Dyffryn Conwy. Mae’r podcast yn cynnwys sgwrs hynod ddifyr gyda Netti Collister, unigolyn rhyfeddol sydd, ynghyd â’i gŵr Rob, yn arwain grŵp gweithredu cymunedol hynod effeithiol yn rhanbarthau Henryd a Rowen. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi gweithio’n drefnus i glirio’r gwrychoedd o gwmpas a’r afon Ro. Er mor fawr eu gorchwyl, maen nhw’n parhau i sicrhau cynnydd, gan adhawlio adrannau newydd bob blwyddyn o dyfiant y jac-y-neidiwr wrth ymweld ag ardaloedd eraill hŷn sy’n cynnwys y chwyn. I fwynhau’r pennod yma o’r podcast, gallwch wrando ar-lein YMA, a gallwch barhau i gysylltu gyda Gillian Brownson drwy gyfrwng ei thudalen FB.
Mae grŵp gweithredu cymunedol arall hynod o brysur ymhellach i fyny Dyffryn Conwy, ym mhentref Tal-y-bont. Mae’r grŵp yma wedi sicrhau cynnydd rhyfeddol wrth glirio arwynebedd eang o jac-y-neidiwr yng nghoedlannau a ffermdir Llanbedr y Cennin. Diolch i’w gweledigaeth a’u dycnwch nhw, cliriwyd bron i 30,000 o blanhigion jac-y-neidiwr eleni’n unig! Eu nod yw ei waredu’n llwyr o’u hardal ac, yn ôl eu cynnydd hyd yma, maen nhw’n siŵr o lwyddo.
Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn gobeithio cynnal cyfarfod arall y Carneddau y gaeaf hwn i drafod strategaeth jac-y-neidiwr ar gyfer y flwyddyn 2024. Os ydych chi’n byw yn y Carneddau neu’r pentrefi o gwmpas ac os hoffech fod yn rhan o’r ymgyrch gynyddol hon, cofiwch gysylltu â ni cai@snowdonia-society.org.uk. Gyda’n gilydd, rydym yn sicrhau cynnydd wrth fynd i’r afael â’r heriau o wynebu’r rhywogaeth ymledol hon a gyda mwy o ymwybyddiaeth a gweithredu ar y cyd, gallwn edrych ymlaen at sicrhau na fydd jac-y-neidiwr yn gymaint o bla yn rhanbarth y Carneddau yn y dyfodol.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk