Rhywogaethau o dan fygythiad yw’r rhywogaethau hynny yr ystyrir eu bod mewn perygl o ddiflannu o’n tiroedd gwyllt. Ystyrir bod mwy na chwarter o’r rhywogaethau ar y blaned (28%) mewn perygl yn ôl Rhestr Goch Rhywogaethau mewn Perygl yr IUCN.Ar hyn o bryd rydym yn wynebu graddfa sylweddol o ddiflaniad rhywogaethau, sy’n arwain llawer o wyddonwyr i awgrymu ein bod yn gweld dechrau chweched digwyddiad diflaniad rhywogaethau ar raddfa eang. Dim ond pump digwyddiad o ddifodiant enfawr sydd wedi digwydd ledled hanes daearegol, a’r olaf oedd y mwyaf enwog gan iddo ladd 75% o rywogaethau deinosoriaid. Mae’n rhaid gwarchod rhywogaethau mewn perygl y byd rhag difodiant i osgoi’r canlyniad hwn. Ymysg rhai enghreifftiau adnabyddus o rywogaethau mewn perygl ledled y byd mae’r panda, y rhinoseros gwyn a hen ŵr y coed, yr orang utan o Borneo. Mae’n debyg eich bod wedi gweld y rhywogaethau hyn yn cael eu cynnwys mewn hysbysebion cyrff cadwraeth sy’n gweithredu ledled y byd, ond wyddoch chi bod amryw sydd angen gwarchodaeth yn Eryri?Mae bioamrywiaeth rhywogaethau yn rhan bwysig o’r amgylchedd naturiol ac mae hefyd yn darparu llawer o fuddion i ddynolryw y tu hwnt i gynnal y byd naturiol yr ydym yn byw ynddo. Mae priodweddau unigryw rhywogaethau unigol wedi ein darparu â llu o wasanaethau (a elwir yn wasanaethau ecosystem) yn cynnwys bwyd, deunyddiau, llifynnau, gofal croen a hyd yn oed moddion sy’n achub bywyd. Daw llawer o’n moddion o fywyd planhigiol yn cynnwys asbirin, morffîn a chyffuriau cemotherapi nad oes modd eu syntheseiddio’n artiffisial ac felly yn dibynnu’n uniongyrchol ar gnydau’r planhigion y maen nhw’n rhan ohonyn nhw i drin cleifion canser. Mae’n amlwg i ni felly cymaint o golled i ddynoliaeth fyddai colli’r rhywogaethau hyn. Mae gwybod bod cymaint o rywogaethau ar fin diflannu o’r tir gyda nodweddion nad ydyn nhw o bosib wedi eu darganfod eto, rhai a all fod ag effeithiau sylweddol tebyg, yn amlygu ymhellach yr angen am eu gwarchod.

Chwilen yr enfys Yr Wyddfa

Mae’r chwilen hon yn drawiadol, gyda’i sgerbwd allanol sgleiniog a’i streipiau gwyrdd, glas a choch gydag adlewyrchiadau aur. Y tro diwethaf y gwelwyd y chwilen hardd hon oedd ym mis Mehefin y llynedd, a’r un a’i gwelodd oedd ein Cai Bishop-Guest ein hunain! Gallwch ddarllen am ei ddarganfyddiad prin yn ei erthygl yma. Ar un pryd roedd yn bosib gweld y chwilen hyfryd hon yn eang ledled Eryri, yn cynnwys poblogaeth yng Nghwm Idwal, ond dydyn nhw ddim wedi cael eu gweld yno ers yr 1980au a bellach dim ond ar Yr Wyddfa ei hun y gellir eu gweld. Hyd yn oed yma, mae eu dosbarthiad wedi lleihau gan eu bod wedi eu cyfyngu bellach i dir uwch nag o’r blaen. Dydyn ni ddim yn deall yn llwyr y rhesymau dros hyn, ond un beth â gyfrannodd yn arwyddocaol at eu prinhad oedd gorgasglu yn ystod cyfnod Victoria oherwydd eu cyrff hardd a nodweddiadol. Heddiw, credir bod newid hinsawdd, sydd hefyd yn effeithio ar amgylchedd lleol Yr Wyddfa, yn crebachu’r cynefin y mae’n nhw’n gallu byw ynddo. Mae newid hinsawdd hefyd wedi arwain at aeafau cynhesach: newyddion gwych i eifr, gyda mwy o fyn geifr yn goroesi tymhorau gaeafol anodd; ond bydd y geifr ifanc yma’n mynd ymlaen i bori llethrau nad ydy defaid yn gallu eu cyrraedd ac lle mae chwilen yr enfys yn byw.

Llun: Cai Bishop-Guest

Bele

Y bele yw’r mamal mwyaf sy’n byw mewn coed yng gwledydd Prydain. Mae’r creaduriaid coedwigol y nos yma’n frowngoch o ran lliw gyda bib melyn a chynffon hir a llawn. Er fod y creadur wedi cael y statws ‘o’r pryder lleiaf’ yn Yr Alban, mae’r carlymoliaid gwych yma’n cael eu hystyried fel creaduriaid mewn perygl difrifol yng Nghymru a Lloegr. Yn wir, daeth y rhywogaeth yn hynod o brin i’r de o derfyn deheuol Yr Alban gan eu bod yn cael eu hela am sbort a’u ffwr, ac yn cael eu herlid gan giperiaid oes Victoria. Yn anffodus, o ganlyniad i wybodaeth anghywir a barn negyddol y Fictoriaid wrth ystyried y creaduriaid yma, daeth llawer i gredu, oherwydd mai ysglyfaethwyr ydyn nhw, eu bod y cael effaith negyddol ar eu cynefin. Mae’n bwysig nodi bod ysglyfaethwyr yn rhan hanfodol o gadwyni bwyd, gan reoli poblogaethau o anifeiliaid eraill a chynnal y cydbwysedd bregus sydd ei angen i gynnal amgylchedd iach a bioamrywiol. Yn wir, mae’r bele yn darparu buddion lu i’r amgylchedd. Rydym yn gwybod bod poblogaeth gref o’r bele yn helpu i hybu niferoedd o rywogaeth arall mewn perygl yn y DU: y wiwer goch. Mae’n nhw’n gwneud hyn wrth atal lledaeniad y wiwer lwyd ymledol.

Bele. Llun: Mark Hamblin

Mae pethau’n gwella i’r mamaliaid yma nad ydyn ni’n eu gwir ddeall! Mae cynnydd mewn cysgod coedwigoedd yng Nghymru a Lloegr dros y ganrif ddiwethaf wedi golygu adferiad eu cynefin. O ganlyniad i hyn a mentrau trawsleoli a roddwyd ar waith yn 2015, mae niferoedd y bele wedi eu hybu, a chofnodir magu llwyddiannus pob blwyddyn. Yn 2019, gwelwyd rhai yn Eryri yng nghoedwigoedd glaw Celtaidd Dolmelynllyn, wedi eu denu i’r ardal gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda jam ac wyau. Mae’n rhaid parhau i gadw llygad fanwl ar y creaduriaid hyfryd a dirgel yma i sicrhau eu dyfodol a pharhad y buddion a ddarperir ganddyn nhw.

Heboglys Eryri

O edrych ar y planhigyn hwn, byddai’n hawdd i chi feddwl nad ydy o’n fwy diddorol nag unrhyw ddant-y-llew arall, ond mewn gwirionedd dyma un o blanhigion mwyaf prin y byd. Mae hon yn rhywogaethau endemig i Eryri, sy’n golygu nad yw’n tyfu yn unlle arall yn y byd. Mae’r angen am ei warchodaeth felly o brif bwysigrwydd i oroesiad y rhywogaeth yn y byd naturiol. Ar un pryd roedd rhai yn credu ei fod wedi diflannu yn yr 1950au, o ganlyniad i orbori. Fodd bynnag, daethpwyd o hyd  dri phlanhigyn unigol yng Ngwarchodfa Natur Cwm Idwal yn 2002. Mae’r rhain wedi eu gwarchod ar y safle wrth gau defaid o’r ardal, gan alluogi’r rhywogaeth eithriadol hon i ddyblu ei nifer i chwe phlanhigyn unigol arall, yn yr un lleoliad. Daethpwyd ag un i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru hefyd er mwyn ei warchod. Yn y gyfres Netflix Sherlock Holmes, The Irregulars, yn 2021, defnyddiwyd y planhigyn hwn i adfywio gŵr oedd wedi marw. Er bod yr uwch rym yma wrth gwrs yn ffuglen, mae ei stori ei hun o adferiad wedi iddo fod mor agos i ddiflannu o’r tir yn wyrthiol ac mae’n rhaid parhau â’r gwaith (sydd ar y gweill) i sicrhau ei barhad.

Heboglys Eryri. Llun: Robbie Blackhall – Miles

Felly, beth sy’n digwydd i helpu?

Mae deddfwriaeth rhywogaethau gwarchodedig yn bodoli ar lefel ryngwladol a chenedlaethol ac yn darparu’r rhywogaethau prin a bregus yma gyda lefel o sicrwydd cyfreithiol rhag aflonyddu gan bobl. Yn y DU, mae’n anghyfreithlon niweidio neu gasglu planhigion unigol, neu ymyrryd â lloches rhywogaethau gwarchodedig yn unol â’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Chadwraeth Cynefinoedd a Rheoliadau Rhywogaethau. Mae llawer o elusennau a chyrff yn gweithio’n fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol gan weithio i’n cynorthwyo wrth warchod bywyd gwyllt yn cynnwys rhywogaethau mewn perygl, yn ein cynnwys ni, Gymdeithas Eryri!

Mae hefyd sawl haen o warchodaeth er mwyn gwarchod cynefinoedd y rhywogaethau yma sydd o dan fygythiad ac mewn perygl, yn cynnwys: Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), ac Ardaloedd o Warchodaeth Morol (AWM). Wrth gwrs, mae mannau gwarchodedig yn cynnwys parciau cenedlaethol (fel Parc Cenedlaethol Eryri) sydd â’r nod o gadw a gwarchod yr amgylchedd lleol a’r cynefin lle mae’r rhywogaethau yma’n tyfu, gyda phwyslais arbennig ar rywogaethau sydd mewn perygl ac o dan fygythiad. Yn fyd-eang, o 2021 ymlaen, mae 16.64% o ecosystemau tir a dŵr i mewn i’r tir a 7.74% o ddyfroedd yr arfordir a’r cefnfor yn cael eu cynnwys mewn rhyw ffurf o ardal warchodedig.

Cytunwyd ar darged rhyngwladol i glustnodi 30% o wyneb y ddaear i ardaloedd gwarchodedig erbyn 2030, mentr a elwir ‘30 wrth 30’; fodd bynnag, mae’n bosibl nad ydym ar hyn o bryd yn mynd i allu gwireddu hyn. Er gwaethaf honiadau Llywodraeth y DU bod yr arwyddion yn awgrymu y bydd y targed o 30 wrth 30 yn cael ei ateb, dangosodd cais rhyddid gwybodaeth nad oedd yr adran sy’n gyfrifol am yr honiad hwn yn gallu darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn. Mae rheolaeth effeithiol o ardaloedd gwarchodedig wedi helpu i roi hwb i boblogaethau o rywogaethau mewn perygl, pan rydym yn deall beth yw’r bygythiadau sy’n effeithio ar y rhywogaethau yma. Gellir gweld hyn o’r arwyddion bychan o adferiad gan heboglys Eryri y sonnir amdano uchod, ar ôl rheoli’r gweithgareddau pori oedd yn eu bygwth.

Mae sawl mentr ar y gweill yn Eryri i warchod a chynnal poblogaethau rhywogaethau a gwarchod eu cynefinoedd. Mae Tlysau Mynydd Eryri, a arweinir gan Swyddog Planhigion Fasgwlaidd Plantlife, Robbie Blackhall-Miles, yn gweithio i warchod ac adfer poblogaethau o 12 rhywogaeth mewn perygl yn Eryri, yn cynnwys chwilen yr enfys yr Wyddfa a heboglys Eryri fel uchod. Mae’r rhywogaethau arctig alpaidd yma yn blanhigion unigryw sydd wedi goroesi ein hanes rhewlifol ac fel pethau byw mae nhw’n ein hatgoffa o dirlun y gorffennol sydd fel arall yn nodweddion cofiadwy sy’n addurno ein hamgylchedd yn Eryri. Rydym yn un o’r cyrff ar grŵp gwireddu’r project hwn ac rydym wedi ein cyffroi wrth gael cyfle i helpu’r fenter hon.

Mae llawer i’w wneud i warchod rhywogaethau mewn perygl ledled Eryri, y DU ac yn fyd-eang, rhag difodiant. Mae’r rhagolygon o ddigwyddiad difodiant enfawr yn digwydd yn dibynnu ar y gweithrediadau a roir ar waith rŵan. Felly, beth allwch chi ei wneud? Gallwch helpu drwy ddysgu am y rhywogaethau o dan fygythiad yn eich ardal chi a’r bygythiadau sy’n effeithio arnyn nhw, plannu rhywogaethau brodorol yn eich gardd, a dysgu am rywogaethau ymledol. Mae llawer o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd o dan fygythiad un ffactor cyffredin, sef newid hinsawdd. Felly, ffordd arall allwch chi helpu yw drwy fod yn ymwybodol o’ch ôl-troed carbon a chefnogi polisïau cynaliadwy. Wedi adferiad poblogaethau o wiwerod coch rydym wedi gweld yr effaith ryfeddol a all ddigwydd wrth i bawb weithio gyda’i gilydd. Pe bawn i gyd yn gwneud ein rhan ac yn ymdrechu i weithredu i warchod ein rhywogaethau mwyaf bregus, efallai na fydd yn rhy hwyr i wrthdroi’r rhagolygon ac achub yr ystod amrywiol o rywogaethau a gynhelir gan ein hamgylchedd naturiol fel eu bod yno ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.