Cyfleoedd Gwirfoddoli

Mae Cymdeithas Eryri yn trefnu dyddiau cadwraeth rheolaidd i wirfoddolwyr i helpu i wella a chynnal harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ein gwirfoddolwyr yn mwynhau rhaglen reolaidd o orchwylion cadwraeth sy’n digwydd be bynnag fo’r tywydd, drwy gydol y flwyddyn. Os ydych chi’n mwynhau gweithgareddau egnïol megis clirio Rhododendron ponticum a chynnal llwybrau amlwg yr Wyddfa neu wella eich medrau adnabod drwy gynnal arolygon bywyd gwyllt neu ddysgu nodweddion gwahanol gynefinoedd, mae gan ein prosiect rhywbeth i bob un ohonoch.

Mae’r holl ddiwrnodau gwirfoddoli wedi’u rhestru ar My Impact. Ar ôl i chi greu eich mewngofnodi cychwynnol, gallwch bori ac archebu unrhyw un o’n gweithgareddau cadwraeth yn uniongyrchol.