Dwylo Diwyd

Ein rhaglen gadwraeth arloesol i wirfoddolwyr

Mae gwaith ein gwirfoddolwyr yn rhan o’r rhwydwaith sy’n cynnal ein Parciau Cenedlaethol. Mae ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig yn cyfrannu at raglenni tymor hir o waith hanfodol: cynnal llwybrau, rheoli rhywogaethau o blanhigion ymledol, clirio sbwriel, a rheoli cynefinoedd er budd bywyd gwyllt. Er bod lleihau difrod yn elfen hanfodol, mae’n fwy na hynny. Mae llawer o’n gwaith yn cynnwys gwella’n ymarferol ac mae ein rhaglen hyfforddi yn helpu i ysbrydoli ac ychwanegu at wybodaeth pobl a’u gwerthfawrogiad o Eryri, ei threftadaeth, ei chynefinoedd a’i bywyd gwyllt.

Ers ffurfio Cymdeithas Eryri dros 50 mlynedd yn ôl mae ein rhaglen gadwraeth ymarferol wedi mynd o nerth i nerth. Bellach rydym yn cynnal sawl gweithgaredd bob wythnos ac yn galluogi cannoedd o bobl i gyfrannu miloedd o oriau o’u hamser tuag at warchod Eryri bob blwyddyn. Mae gwirfoddolwyr yn cael cyfle i roi rhywbeth yn ôl i Eryri yn ogystal ag archwilio a mwynhau rhai o ardaloedd harddaf a mwyaf arbennig y wlad. Hefyd, maen nhw’n magu profiad ymarferol, gwybodaeth, hyder ac ystod o fedrau sy’n hybu’r posibilrwydd iddyn nhw gael eu cyflogi.

Yn ddiweddar, rhoddwyd cydnabyddiaeth i’n rhaglen wirfoddoli Dwylo Diwyd gyda’r wobr Cryn Gymeradwyaeth yng Ngwobrau Gwarchod Parciau 2018 y Parciau Cenedlaethol.