Ein Cenhadaeth

Yw sicrhau bod Eryri yn cael ei gwarchod, ei rheoli’n dda a’i mwynhau mewn modd gyfrifol gan bawb

 

Ein pwrpas fel elusen gofrestredig yw gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri a hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw a gweithio yn yr ardal, neu’n ymweld â’r ardal nawr ac yn y dyfodol.

Ers 1967 rydym wedi bod yn gweithio’n ddiflino gyda llawer iawn o wirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, rheolwyr tir a busnesau i helpu i warchod Eryri.

Drwy gyfrwng ein gwaith cadwraeth tirlun rydym yn darparu cymorth ymarferol a llais cryf dros dirlun arbennig Eryri. Ond, yn y pen draw, y cariad tuag at yr ardal sy’n cyfrif – perthnasau pobl gyda byd natur, tirlun, treftadaeth a diwylliant Eryri.

Darganfod mwy

IMGC8745-96

Cadwraeth ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth i Eryri, flwyddyn ar ôl blwyddyn: clirio sbwriel, cynnal a chadw llwybrau troed, rheoli rhywogaethau ymledol a gwella cynefinoedd ar gyfer natur

Aber Afon Dwyryd ar ôl tynnu’r peilonau

Eiriolaeth ac Ymgyrchoedd i amddiffyn nodweddion arbennig Eryri rhag bygythiadau megis datblygu amhriodol neu erydu o’r dreftadaeth naturiol a diwylliannol

Cysylltwch ag info@snowdonia-society.org.uk i drafod unrhyw agwedd o waith y Gymdeithas.

Mae Eryri angen chi!