Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad arbennig am ddim i cefnogwyr (aelodau, gwirfoddolwyr a rhoddwyr) Cymdeithas Eryri, diolch i brosiect Natur am Byth yr RSPB. I ddathlu Diwrnod y Gylfinir, hoffem eich gwahodd i daith cerdded tywysedig yng ngwarchodfa Cors Ddyga. Dysgwch am natur unigryw ac adar yr ardal, gyda phwyslais arbennig ar ddysgu enwau Cymraeg adar. Efallai y byddwn yn ddigon ffodus i weld neu glywed gylfinir!
Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg neu’r rhai sydd’n rhygl ac eisiau ymarfer eu henwau adar. Bydd y diwrnod yn cael ei gyflwyno’n ddwyieithog ac wedi’i addasu i anghenion y grŵp.
Mae’r sesiwn 2 awr yn cynnwys sgwrs croeso gyda thê, coffi, a bisgedi, ac yna taith tywysedig cylchol.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk