Helpwch ni i fynd i’r afael â’r Argyfwng Natur a chefnogi ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur yn Eryri!
Mae byd natur yng Nghymru mewn argyfwng; mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu o’r wlad. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy newydd i gymryd lle’r Polisi Amaethyddol Cyffredin. A wnewch chi ein helpu i helpu byd natur drwy gymryd rhan mewn ymgynghoriad? Dim ond dwy funud mae’n ei gymryd!
Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy dros ffermwyr a byd natur yn ein Parciau Cenedlaethol drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac rydyn ni angen eich help.
Ni all y Llywodraeth fforddio colli’r cyfle euraidd hwn i gefnogi arferion ffermio sy’n gyfeillgar i natur a helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Dylai Parciau Cenedlaethol chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â hyn, ond nid yw cynlluniau amaethyddiaeth blaenorol Llywodraeth Cymru wedi sicrhau canlyniadau gwell y tu mewn i’r ardaloedd hyn na’r tu allan.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn creu cynllun cymorth ariannol newydd i ffermwyr, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), a rhaid inni sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer byd natur Cymru.
A wnewch ymuno â ni i fynnu gwell dyfodol i fywyd gwyllt a sicrhau bod yr SFS yn gwobrwyo ac yn cymell ffermio sy’n gyfeillgar i natur mewn Parciau Cenedlaethol?
Ie, mi wnaf i gymryd rhan!
DS: Peidiwch ag oedi. Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 7 Mawrth!
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk