Datblygu medrau cenhedlaeth werdd

Gyda phryder am yr hinsawdd yn cynyddu, ni fu erioed gyfnod pwysicach i sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn cadwraeth. Rydym yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli cadwraeth ymarferol ledled Eryri ac yn cynnig hyfforddiant achrededig i helpu i rymuso pobl i wneud gwahaniaeth yn eu hamgylchedd lleol.

Mae’r argyfwng hinsawdd yn peri i bobl deimlo nad oes modd iddyn nhw fod o gymorth ac yn rhwystredig. Maen nhw’n gweld bod eu hamgylchedd yn newid yn gyflym ac nad oes ganddyn nhw rym i’w rwystro. Er enghraifft, mae rhywogaethau ymledol fel jac-y-neidiwr yn lledaenu ac yn bygwth bioamrywiaeth brodorol, tra bod y nifer cynyddol o ymwelwyr yn rhoi mwy o bwysau ar lwybrau a chyfleusterau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae llawer sy’n angerddol am gadwraeth yn brwydro i gael mynediad i’r sector. Maen nhw’n wynebu rhwystrau megis diffyg profiad, cymwysterau, neu gysylltiadau.

Ein dymuniad yw newid hyn drwy:

  • Ddarparu gweithredu ymarferol strategol, wedi ei drefnu’n dda ac yn ddwyieithog i helpu i fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf amlwg Eryri.
  • Gynnig cyfleoedd hyfforddiant am ddim i’n gwirfoddolwyr, yn cynnwys cymorth cyntaf, hyfforddiant achrededig mewn cynnal a chadw llwybrau, hyfforddiant arweinwyr a mwy.
  • Gynyddu’r nifer o bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn ein projectau, drwy gydweithio gydag ysgolion, colegau, gosodiadau profiad gwaith a chyfleoedd hyfforddiant ar wir gyflog byw.

Credwn bod addysg yn ffactor allweddol o ran cynyddu ymwybyddiaeth ac ysbrydoli gweithredu dros yr amgylchedd. Dyna pam ein bod yn cydweithio’n agos gydag ysgolion cynradd ac eilradd, prifysgolion, a cholegau yn Eryri a thu hwnt. Rydym yn cynnig sesiynau dysgu ymarferol yn yr awyr agored sy’n mynd i’r afael â phynciau megis bioamrywiaeth, cynaladwyedd a chadwraeth. Ein nod yw darparu myfyrwyr gyda’r wybodaeth a’r medrau sy’n eu hysgogi i ddod yn arweinwyr gwyrdd yn eu cymunedau a’u gyrfaoedd. Wrth weithio gyda’r sector addysg, gobeithiwn ddarparu cenhedlaeth werdd â’r medrau a fydd yn llunio gwell dyfodol i’n planed.

Heblaw am warchod y tirlun a’r cynefin, mae ein gwaith hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl a chymuned yr ardal. Wrth sicrhau rhan gwirfoddolwyr yn ein projectau, rydym yn eu grymuso i berchnogi eu hamgylchedd a meithrin synnwyr o falchder a chyfrifoldeb.

Bydd gwirfoddolwyr yn:

  • cael cyfle i ddatblygu medrau y gellir eu trosglwyddo
  • elwa o gymysgu gyda phobl o amrywiol gefndir
  • teimlo’n rhan o gymuned
  • profi gwell budd corfforol a meddyliol.

Os ydych chi’n athro/addysgwr a hoffai drefnu sesiwn grŵp i’ch disgyblion neu staff cysylltwch â iwan@snowdonia-society.org.uk am fwy o wybodaeth.