Ers diwedd y cyfnod clo bu problem barcio ddifrifol yng nghanol mynyddoedd Eryri, yn enwedig yn Nyffryn Ogwen wrth droed Tryfan. Yn ystod misoedd yr haf, mae ceir sydd wedi’u parcio’n anghyfreithlon wedi cael eu tynnu i ffwrdd yn rheolaidd, gan achosi galar a chost i bawb.
Rwan mae Cymdeithas Eryri yn cynnig ateb a allai nid yn unig fynd i’r afael â’r broblem honno ond hefyd wneud Eryri yn arweinydd ym maes trafnidiaeth gynaliadwy mewn Parciau Cenedlaethol. Y syniad yw dechrau gweithredu Adroddiad Higgett 2020, saf Adolygiad Trafnidiaeth a Pharcio ac Ogwen Yr Wyddfa ac Ogwen a Gwerthusiad Opsiynau, a gomisiynwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (ENPA).
Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gofyn i’r cyhoedd enwebu safleoedd fyddai’n addas i’w datblygu. Mae Cymdeithas Eryri wedi awgrymu bod Parc Bryn Cegin, ger cyffordd yr A5 a’r A55 ychydig i’r de ddwyrain o Fangor, yn cael ei ddynodi ar gyfer datblygu Cynllun Parcio a Theithio lle gallai ymwelwyr adael eu ceir ac yna dal bysiau rheolaidd i Ddyffryn Ogwen a hefyd i Lanberis ac ymlaen i’r Wyddfa.
Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar y safle ac mae o wedi’i ddynodi’n stad ddiwydiannol, ond mae o wedi cael ei alw’n safle ‘ghost estate’ gan y wasg leol gan ei fod yn dal wag ar ôl deng mlynedd.
Dywed Rory Francis, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: “Mae aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cwyno am y sefyllfa anodd o ran parcio yng nghanol Eryri a dweud y gallai tynnu ceir sydd wedi’u parcio’n anghyfreithlon yn achlysurol roi enw drwg i’r ardal. Byddai Cynllun Parcio a Theithio ym Mharc Bryn Cegin yn helpu datrys y broblem honno.
“Gallai ymwelwyr adael yr A55, parcio a dal un o fysiau rheolaidd T10 i fyny i’r mynyddoedd. Roedd y T10 rhwng Bangor a Betws-y-coed yn rhedeg bob awr yn ystod y dydd dros yr haf diwethaf ac o ganlyniad fe wnaeth nifer y bobl oedd yn teithio arno fo ddyblu, bron. Mi fuodd o mor lwyddiannus fel yr roedd meysydd parcio bach Bethesda yn llawn ar ddiwrnodau braf dros yr haf. Felly os ydym am ganiatáu i fwy o bobl gael mynediad i’r mynyddoedd ar y bws, mae rhaid darparu mwy o leoedd parcio yn ogystal â bysiau amlach. Gallai Bryn Cegin roi’r ateb. Wrth gwrs, yn ddelfrydol, mi hoffen ni weld mwy o bobl fynd ar y trên i Fangor a dal y bws oddi yno. Ond byddai cyfleuster Parcio a Theithio ym Mharc Bryn Cegin yn gam enfawr yn y cyfeiriad cywir, a byddai’n helpu mynd i’r afael â’r hyn sydd eisoes yn broblem wirioneddol yn Nyffryn Ogwen.”
“Rydym yn awyddus i gydweithio a chefnogi Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri”, meddai Rory Francis. “Ond rydym yn teimlo bod y posibilrwydd o gael cyfleuster Parcio a Theithio ym Mharc Bryn Cegin yn gyfle rhy dda i’w golli. Felly rydym yn ei gynnig ein hunain, er nad yw’r safle’n perthyn inni, yn y gobaith y bydd hyn yn ysgogi trafodaeth a gweithredu.”
Mi gyhoeddodd Cyngor Gwynedd eu ‘Galwad am Safleoedd’ ym mis Awst y llynedd, gyda 15 Ionawr fel y dyddiad cau. Mae Cymdeithas Eryri wedi ymateb i hyn, gan gynnig bod Parc Bryn Cegin yn cael ei ddynodi ar gyfer cyfleuster Parcio a Theithio yn ogystal a’i ddynodiad presennol ar gyfer datblygiad ar gyfer cyflogaeth, fel bod yna ddigon o le ar gyfer y ddau.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk