A wnewch chi ymuno â Iolo Williams i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru I gefnogi ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur yn ein Parciau Cenedlaethol?
Mae byd natur yng Nghymru mewn argyfwng; mae un rhywogaeth o bob chwech mewn perygl o ddiflannu o’n gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd i gymryd lle’r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Daw’r ymgynghoriad i ben mewn pythefnos ar 7 Mawrth. Rwan mae’r adaregydd Iolo Williams yn annog pobl i ddweud eu dweud drwy gymryd rhan mewn e-ymgyrch a drefnwyd gan Gymdeithas Eryri ac Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol.
“Gydag 80% o arwynebedd tir Cymru yn cael ei cael ei ffermio mae’n hollbwysig fod yr SFS yn addas i’r pwrpas – i ffermwyr, i bobl ac i natur,” meddai Iolo. “Gallaf ddweud wrthych fod yna rai pethau cadarnhaol yn y cynllun ar gyfer yr amgylchedd, ond mae llawer mwy nad ydynt yn mynd yn ddigon pell, neu a allai hyd yn oed gael effaith negyddol ar ein bywyd gwyllt. Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu’r cynllun hwn i fynd i’r afael â’r materion hyn, a dyma lle gallwn ni i gyd chwarae ein rhan.”
Mae’r ymgyrch hefyd yn cael ei chefnogi gan Mike Raine, arweinydd awyr agored sy’n cynhyrchu’r podlediad poblogaidd Outdoor Lives, sydd ar gael ar Spotify ac apiau podlediadau eraill.
“Mae arweinwyr awyr agored yn gwneud bywoliaeth dda o’n Parciau Cenedlaethol”, meddai Mike, “Ond rydyn ni’n poeni’n fawr am warchod y bywyd gwyllt a’r tirweddau rhyfeddol maen nhw’n eu cynnal. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddyfodol ffermio ac rwy’n teimlo’n gryf y dylen nhw gefnogi ffermwyr sy’n gwneud y pethau iawn i gefnogi a gwella bywyd gwyllt a byd natur. Dyna pam rydw i wedi cymryd rhan drwy ddefnyddio e-weithred a sefydlwyd gan Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol. Beth am fynd ar-lein a chymryd rhan eich hun?
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk