Adnabod ein gilydd yn well ar gyrsiau cymorth cyntaf!

Yr wythnos diwethaf cafodd ein tîm staff gyfle i fwynhau eu hunain ar gwrs cymorth cyntaf awyr agored yn Boulder Adventures lle cawsom ddysgu sut i sicrhau diogelwch pawb yn yr awyr agored. Yn ffodus, roedd y tywydd yn hyfryd a chawsom y cyfle i ddysgu yn yr awyr agored.

“Rydw i’n teimlo fod gen i gymaint yn fwy o wybodaeth a fy mod yn hyderus yn fy medrau cymorth cyntaf erbyn hyn; roedd yn wych cael yr hyfforddiant cefnogol ac ymarferol i’m helpu i baratoi ar gyfer sefyllfaoedd go iawn.”

Molly Isherwood, Cynorthwy-ydd Cadwraeth dan Hyfforddiant.

“Rhoddodd y cwrs cymorth cyntaf awyr agored hwb go iawn i fy hyder wrth ddelio gydag argyfyngau a chadw fy hun dan reolaeth o dan bwysau. Rydw i’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn fy ngallu i drin â sefyllfaoedd diogelwch o dan yr amodau drwg a all ddigwydd wrth weithio’n yr awyr agored.” Chelsea Boden, Cynorthwy-ydd Cadwraeth dan Hyfforddiant.

Diolch enfawr i Steve a Helen o Gymorth Cyntaf Eryri [Snowdonia First Aid] am eich cwrs difyr ac ysbrydoliadol ac i Boulder Adventures am gynnal y digwyddiad mewn ffordd mor groesawgar.