Mae gweddillion aneddiadau hynafol i’w gweld ledled y Carneddau. Fodd bynnag, fe all twf llystyfiant danseilio’r strwythurau archeolegol yma, yn ogystal â chuddio eu bodolaeth.
Mae clirio eithin o’r safleoedd arwyddocaol hyn yn datgelu mwy o hanes cudd ein hardal ac hefyd yn creu mannau bwydo i frain coesgoch sy’n dibynnu ar laswellt wedi ei bori’n fyr ar gyfer chwilota am fwyd. Y gaeaf hwn byddwn yn cynnal dyddiau clirio eithin ddwywaith y mis ar ddyddiau’r wythnos ac ar benwythnosau fel rhan o Bartneriaeth Tirlun y Carneddau. Rydym yn canolbwyntio ar safle Cwm Anafon, Abergwyngregyn ar hyn o bryd ac mae’n hawdd cyrraedd y lleoliad hwn gyda thrafnidiaeth gyhoeddus o gyfeiriad Bangor a Llandudno.
Rydym wedi trefnu sesiynau ar gyfer 8/11, 16/11 a 26/11. I ddod draw atom, ac i weld y rhestr gyfan o weithgareddau ar y gweill, ewch i’n tudalen gwirfoddoli ar My Impact.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk