Diolch enfawr i aelodau Co-op Llanrwst am ein noddi i dderbyn canran o werthiant eu nwyddau. Buont o gymorth i godi £2,793.32 i Gymdeithas Eryri! Defnyddir yr arian a gyfrannwyd i helpu i gael mwy o wirfoddolwyr i ddod i warchod Eryri ac i wneud gwahaniaeth.
Sut mae’n gweithio
Fel aelod, bob tro y byddwch yn siopa yn y Co-op, bydd 1{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} o’r hyn y byddwch yn ei wario ar gynnyrch brand a gwasanaethau’r Co-op yn mynd i gronfa’r gymuned leol. Mae’r arian a godir gan yr aelodau yn eich cymuned, ynghyd â rhywfaint o arian a geir wrth werthu bagiau siopa, yn helpu i ariannu projectau lleol yn eich ardal chi.
Gallwch ddewis pa achos yr hoffech i’ch 1{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} chi fynd iddo. Mae unrhyw arian a godir gan aelodau nad ydyn nhw’n dewis achos yn cael ei ychwanegu at yr arian a geir wrth werthu bagiau siopa ac yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng yr achosion yn eu hardal leol. Ymaelodwch â’r Co-op i helpu achosion yn eich ardal chi.
Cofiwch ein noddi ni yn eich archfarchnad leol
Ydych chi’n gwybod pwy sy’n derbyn yr arian a geir wrth werthu bagiau siopa lle rydych chi’n siopa? Mae noddi Cymdeithas Eryri i dderbyn yr arian yn eich archfarchnad leol yn ddull hynod o effeithiol o’n cefnogi ni.
Yn ddiweddar derbyniwyd £11,168 gan Waitrose a £516 gan Co-op Llanrwst wrth iddyn nhw werthu bagiau siopa a chyn hyn rydym wedi derbyn £750 gan grwp o siopau Spar yng ngogledd Cymru. Fe all un weithred fach gennych chi wneud gwahaniaeth mawr i Eryri!
Rydym yn gofyn i bob siopwr fynd â bag efo nhw wrth siopa, ond os na fydd gennych fag yn digwydd bod rhyw dro ac yn gorfod prynu un, mae’n dda gwybod bod yr arian yn mynd tuag at achos da.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk