Agenda CCB 2023 Plas y Brenin

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’n Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ym Mhlas y Brenin, Capel Curig ar 18 Tachwedd 2023.

Ein siaradwr gwadd eleni yw Alec Young, Swyddog Yr Wyddfa Di-blastig i Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Eleni, rydym yn cynnig yr opsiwn o ginio unwaith eto sef cawl a brechdan, te, coffi a theisen. Yn dilyn cinio cynhelir taith dywys gyda David Walker.

Dyma eich cyfle i ymuno â’r staff a’r tîm o wirfoddolwyr ar ddiwrnod i’w fwynhau, i ddysgu am waith y Gymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf a’i chynlluniau ar gyfer y nesaf.

Bydd yr Adroddiad Blynyddol, y Cyfrifon Blynyddol ac Adolygiad y Flwyddyn ar gael ar ein gwefan www.snowdonia-society.org.uk erbyn 3ydd Tachwedd. Yma hefyd gallwch weld y rhestr lawn o bobl sydd wedi rhoi eu henwau gerbron i’w hethol fel ymddiriedolwyr yng Nghyfarfod Blynyddol Cyffredinol eleni. Os nad ydych yn gallu gweld yr wybodaeth ar ein gwefan cysylltwch â’r swyddfa drwy ebostio www.snowdonia-society.org.uk neu drwy ffonio’r swyddfa ar 01286 685498. Gallwn yna ebostio neu bostio’r dogfennau i chi. Bydd y sawl sy’n cofrestru i fynychu’r CBC yn derbyn y dogfennau’n awtomatig ar ebost.

Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth barhaol i’r Gymdeithas a’n holl waith i warchod a gwella Eryri.

Digwyddiad i aelodau yn unig yw hwn a rhaid archebu lle ar-lein YMA neu drwy info@snowdonia-society.org.uk erbyn 9fed o Tachwedd

10:00-10:30 – Cofrestru
10:30 – Busnes ffurfiol y CBC
1. Ymddiheuriadau
2. (i) Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2022
(ii) Materion yn codi o’r cofnodion hyn
3. Adroddiad y Cadeirydd – Sue Beaumont
4. Adroddiad y Project Cadwraeth – Cai Bishop-Guest
5. Adroddiad Blynyddol
6. Adroddiad Ariannol
7. Cwestiynau i’r Cyfarwyddwr a’r Swyddogion
8. Mabwysiadu Adroddiadau a Chyfrifon
(i) Cynnig i fabwysiadu’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y cyfnod yn diweddu 31 Mawrth 2023
(ii) Cynnig i ail-benodi Williams Denton fel archwilwyr annibynnol cyfrifon y Gymdeithas ar gyfer 2023/2024.
9. Ethol Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith:
Llywydd: Roger Thomas. Is-lywyddion: Ei Anrhydedd Huw Morgan Daniel CVO KStJ, David Firth, Syr Simon Jenkins. Cadeirydd: Sue Beaumont. Is-gadeirydd: Jane Barbrook.  Ymddiriedolwyr: Julian Pitt, David Walker, Mathew Teasdale. Penodi ymddiriedolwyr newydd: Rob Collister, Chris Ball a Chloe Bailey
10. Unrhyw fusnes arall a dyddiad CBC 2024
11:45 – Siaradwr gwadd: Alec Young
12:30 – Cinio
13:30 – Diwedd a taith ddewisol