Ailystyried yr Addunedau

Wrth i wefr y Flwyddyn Newydd ddechrau pylu, mae hi’n anodd dod o hyd i ysbrydoliaeth ar foreau oer a thywyll. Ond tybed ai’r allwedd i barhau i gael ein hysgogi yw ymwneud â byd natur yn hytrach na hunan-feirniadaeth?

Rydym yn adlewyrchu ar sut yr hoffem ‘wella’ ein hunain, gan fod yn orfeirniadol a llym yn aml gyda ‘Blwyddyn Newydd, Fi Newydd’ yn amlwg yn y cyfryngau. Dyma gychwyn ar ddalen newydd a llyfr nodiadau glân a gwag, yn barod i drawsnewid ein bywydau unwaith eto, cyn i ni fethu ag ateb y nodau afrealistig.

Rydym yn nodi geiriau all ein hysbrydoli i fod ‘y fersiwn gorau ohonon ni ein hunain’: mwy o ymarfer corff, colli pwysau, treulio mwy o amser efo’r teulu, gwella ein hiechyd meddwl, bod yn fwy cymdeithasol, treulio llai o amser ar ein ffonau, dysgu rhywbeth newydd, dysgu iaith newydd.

Beth petai eleni yw’r flwyddyn y byddwn yn ailgyfeirio ein sylw yn allanol – gan ganolbwyntio ar rywbeth arall yn hytrach na’n gwallau? Efallai y bydd yn syndod i ni gymaint o’n nodau personol a fyddai’n cael eu gwireddu pe baem yn gwneud adduned i fyd natur yn hytrach.

Wrth ymuno â diwrnod i wirfoddolwyr unwaith neu ddwy y mis, byddwch nid yn unig yn gwarchod  Eryri a’r rhywogaethau sy’n byw yno, ond byddwch hefyd yn crwydro ym myd natur, yn fwy heini, yn gryfach, yn fwy gwydn yn feddyliol, ac yn magu medrau newydd. Fyddwch chi ddim yn teimlo’r angen i edrych ar eich cyfryngau cymdeithasol neu e-bostiau oherwydd byddwch ymysg y tirlun harddaf a gynigir gan y DU, yn sgwrsio ac yn rhannu gwybodaeth gyda phobl o’r un anian, ac yn gwella eich medr yn y Gymraeg hefyd o bosib gyda chyd-wirfoddolwyr.

Cyn bo hir, efallai y byddwn yn sylweddoli bod pob dim y dymunwn ei wireddu yn ein bywydau personol yn ganlyniad yr hyn sy’n digwydd pan rydym ym myd natur ac yn byw ein bywydau, yn mwynhau ein hunain heb bwysau ticio blychau a rhestrau hir.

Felly, os oes un adduned i’w gwneud yn 2025, beth am addunedu i warchod ein byd naturiol? Wrth wneud hynny, efallai y byddwch yn llwyddo i fod y fersiwn orau ohonoch eich hun – yn ddiymdrech!

Peri Smith – Swyddog Datblygu

Cwblhewch ffurflen gwirfoddoli yma