Rhagfyr 2021, Dydd Llun, 10:00 AM
Rydw i’n sefyll ar gwr darn eang o rostir sy’n ymestyn tua’r cymylau sy’n cuddio copa’r Rhinog Fawr. Y tu ôl i mi mae planhigfa goniffer drwchus sy’n ffynhonnell egin goed a choed ifanc sydd eisoes yn lledaenu ledled y rhostir ac yn bygwth mygu’r cynefin brodorol hwn. Mae’r rhostir hwn yn rhyngwladol bwysig ac yn darparu cynefin hanfodol i adar sy’n nythu ar y ddaear a rhywogaethau eraill o dan fygythiad. I mi, dyma un o’r ychydig o lecynnau yn Eryri sy’n parhau i deimlo’n wirioneddol wyllt. Rydym yma heddiw i warchod y cynefin rhag y crwydrwyr estron yma. Mae fy nghydweithwyr newydd – Mary, Jen, Owen, ac Alf – o’m cwmpas mewn hanner cylch, yn gwrando’n astud ar ein prif swyddog cadwraeth, Dan, yn egluro pam ein bod yma: i ddifa’r egin blanhigion a chonifferau ifanc er mwyn creu rhanbarth rhagod o amgylch y blanhigfa. Dyma fy niwrnod gwaith cyntaf gyda Chymdeithas Eryri a chychwyn rhaglen wythnos o hyfforddiant cadwraeth lle byddaf yn dysgu amrywiol fedrau ymarferol a dod i adnabod gweddill y tîm. Er gwaethaf glaw mân mis Rhagfyr, rydw i wrth fy modd yn yr awyr agored.
Cai a’r tim yn clirio conwydd fel rhan o hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth ymarferol
Ychydig a wyddwn ar y pryd y byddai fy nghytundeb hyfforddiant cadwraeth chwe-mis yn datblygu i gyflogaeth dwy flynedd a hanner. Mae’r erthygl hon yn rhoi cipolwg ar fy amser gyda Chymdeithas Eryri a’r cyfleoedd gwych a geir wrth dderbyn swydd yma, yn enwedig i bobl sy’n gobeithio cael gyrfa ym myd cadwraeth.
Aeth fy ychydig fisoedd cyntaf o hyfforddiant heibio fel y gwynt. I ddechrau, roeddwn yn dilyn ein swyddogion cadwraeth, Dan a Mary, wrth iddyn nhw arwain dyddiau ymarferol ledled Eryri. Cliriwyd eithin o olion archeolegol, plannwyd coed, cynhaliwyd llwybrau a rheolwyd coedlannau. Roedd y cyfnod hwn yn gyfle gwych i ddysgu am gadwraeth yn Eryri ac i ddod yn gyfarwydd â’r tirlun a byd natur. Daeth her annisgwyl i’r fei’n sydyn yn ystod y cyfnod hwn, wrth geisio crwydro’r Parc Cenedlaethol. Fel aelod o’r genhedlaeth Google Maps, roeddwn wedi arfer tanio fy ffôn, gosod pin digidol, neidio i’r car, a gadael i dechnoleg fy arwain. Ond yn Eryri, doedd bywyd ddim mor syml â hynny. Yn aml, doedd traciau fferm ddim wedi eu nodi ar fapiau neu’n diflannu wrth i chi gyrraedd, ac roedd rhanbarthau lu lle nad oedd signal ffôn o gwbl. Rhoddais y gorau i’m strategaeth goroesi technolegol yn fuan iawn, a dysgais i dynnu sgrin lun o’r daith gyfan cyn cychwyn ac i sicrhau hanner awr ychwanegol o amser teithio i ganiatáu agor a chau’r cannoedd o giatiau fferm.
Roedd dilyn gwahanol aelodau o staff ar ddyddiau’r gorchwylion cadwraeth ymarferol yma’n hynod o ddefnyddiol. Roedd y cynnwys craidd yr un peth: sgwrs iechyd a diogelwch, cyflwyniad byr i’r gorchwyl, arddangosiad sydyn, yna arwain drwy enghraifft. Fodd bynnag, roedd y dull o gyflwyno a’r gallu i adael i bersonoliaeth amlygu ei hun yn allweddol. Roedd gan Dan ddull hynod drefnus ac roedd bob amser yn dawel ac yn eglur. Roedd Mary yn frwdfrydig, yn egluro pethau’n drwyadl ac yn rhoi sylw i’r gwirfoddolwyr. Roedd y ddau yn gallu creu cyswllt yn syth efo’r gwirfoddolwyr ac roedd y dyddiau’n broffesiynol ac yn rhai i’w mwynhau. Byddai’n cymryd amser i ddod o hyd i fy arddull fy hun o arwain. Ond, cyn i mi allu arwain, roedd angen i mi sicrhau cymhwyster Cymorth Cyntaf yn yr awyr agored i sicrhau y byddwn mewn sefyllfa i ddiogelu gwirfoddolwyr. Dyma un o’r llu o gyrsiau a chymwysterau a ddarparwyd gan Gymdeithas Eryri yn ystod fy nghyfnod yno. Unwaith yr oeddwn wedi cymhwyso mewn Cymorth Cyntaf, dechreuais arwain dyddiau i wirfoddolwyr ar fy mhen fy hun.
Cynnal a chadw llwybr Pyg, Yr Wyddfa.
Treuliais fy haf cyntaf yn arwain dyddiau Caru Eryri, project partneriaeth sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau a geir wrth i ymwelwyr ddod i Eryri. Mae materion fel erydiad llwybrau, pwysau parcio, a sbwriel yn bryderon cyffredin. Pob penwythnos rhwng mis Ebrill a mis Medi, mae’r project hwn yn trefnu dyddiau gwirfoddoli yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd. Ein nod oedd bod yn bresennol yn y mannau yma sydd â llawer o drafnidiaeth ar y dyddiau pwysicaf, gweithredu fel presenoldeb positif, cynnig cyngor, casglu sbwriel, a chynnal a chadw llwybrau.
Roeddwn yn rhyfeddu bob amser at y nifer o bobl oedd yn dod draw i gyfrannu eu hamser i ofalu am y Parc Cenedlaethol. Y llynedd yn unig, gwirfoddolodd 149 o bobl i’r project hwn! Mae hyn yn dangos yn glir y synnwyr cryf o berchnogaeth y mae llawer o bobl yn ei deimlo am Eryri. Yn ystod y tymor cyntaf hwnnw, treuliais y rhan fwyaf o benwythnosau yn arwain grwpiau bach o wirfoddolwyr, dysgu, a gwella fy ngallu i wynebu heriau amrywiol. Er enghraifft, roedd dysgu i ddweud “na” i gymryd cwpan goffi oddi ar gerddwr neu gofyn i rywun roi eu ci ar dennyn yn anodd i mi i ddechrau. Yn ffodus, sylweddolais bod y rhan fwyaf o bobl yn ymateb i gynigion, yn enwedig os oedden nhw’n cael eglurhad hefyd. Er enghraifft, wrth ofyn i bobl roi eu cŵn ar dennyn, roedd egluro bod da byw ac adar yn nythu ar y ddaear fel arfer yn derbyn ymateb positif. Fodd bynnag, nid oedd bob amser yn llwyddiannus ac, yn yr achosion hynny, mae’n bwysig peidio gwaethygu’r sefyllfa a symud ymlaen – dydych chi ddim yn mynd i lwyddo i wneud iddyn nhw ail-feddwl!
Mae’n bwysig nodi bod llawer mwy o bobl yn diolch i ni ac yn cynnig cymorth nag a geir o achosion fel uchod. Fel arweinydd, mae pob un o’r profiadau yma’n golygu gwersi gwerthfawr; dyma yw realiti gweithio mewn mannau awyr agored poblogaidd.
Gwirfoddolwyr Caru Eryri yn derbyn croeso cynnes gan Steffan yng Nghaffi Pen-y-Ceunant Isaf Yr Wyddfa – Diolch Steffan am eich cefnogaeth ac am yr holl gacen!
Wrth i’r tymhorau newid, dyna ydy hanes ein gwaith gwirfoddoli hefyd. Y gaeaf ydy’r tymor priodol i blannu coed, clirio prysgwydd, a gwneud gwaith cynnal a chadw llwybrau ar dir isel. Yn aml, dyma fy hoff ddyddiau gan eu bod yn darparu ffordd o ddianc o’r swyddfa a chael cyfle i fod yn yr awyr agored mewn golau dydd prin y gaeaf. Ceir hefyd synnwyr heintus o gyrhaeddiad yn dilyn cwblhau gorchwylion ymarferol ar y dyddiau mwyaf gwlyb, gwyntog ac oer. Ac, os ydych yn ddigon ffodus i gael diwrnod heulog, mae’r boddhad o fod yn un o’r ychydig o bobl allan yn yr awyr agored yn haul prin y gaeaf yn sicrhau fwy o foddhad eto. Os nad ydych yn fy nghredu, beth am brofi hyn eich hun a gwirfoddoli efo ni yn ystod y gaeaf nesaf?
Clirio eithin o weddillion archeolegol yng Nghwm Anafon yn y Carneddau
Wrth i 2023 ddod i’w derfyn, teimlaf yn fwyfwy hyderus yn fy ngallu i arwain a chynnal dyddiau gwirfoddoli. Erbyn hyn, rydw i wedi arwain llawer o ddyddiau cyhoeddus, llawer o ddyddiau ysgol, a llond llaw o ddigwyddiadau corfforaethol. Mae’r rhain i gyd wedi fy helpu i ddelio â gwahanol grwpiau oedran a mathau o bobl. Dyma ychydig o bwyntiau allweddol yr ydwyf i wedi eu dysgu am wahanol grwpiau hyd yma:
Plant ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth pentwr jac y neidiwr fwyaf, person ifanc yn plannu coeden a gwirfoddolwyr yn mwynhau egwyl de.
Cychwynnodd y flwyddyn hon hefyd gyda chyfle gwych drwy gyfrwng gwaith i fynychu cwrs hyfforddiant arweinydd mynydd (AM). Pwrpas y cwrs yw datblygu medrau arwain a chadw pobl yn ddiogel yn y mynyddoedd, ac mae’n hanfodol cyn rhoi cynnig ar asesiad AM. Yn ystod y cwrs 6-diwrnod hwn dysgais am fordwyo manwl, ymdopi â thirwedd peryglus, medrau rhaff sylfaenol, a chrefft gwersylla. Roedd pob un o’r medrau hyn yn hynod berthnasol i fod yn swyddog cadwraeth, ac ar ei ddiwedd roeddwn yn teimlo’n fwy hyderus i arwain grwpiau a deall pryd y byddai angen AM ar gyfer ein dyddiau i wirfoddolwyr. Ar ddiwrnod olaf y cwrs rhoddwyd prawf i’r holl fedrau a ddysgwyd wrth fordwyo yn y nos a gwersylla dros nos.
Cynhaliwyd y mordwyo nos yng Nghwm Llan ar lethrau’r Wyddfa ar noson ddi-sêr ym mis Ionawr. Roeddwn yn eithaf cyfarwydd â’r cwm hwn ar ôl arwain dyddiau yma i wirfoddolwyr, lle byddem yn trwsio ac yn adeiladu adrannau o lwybrau a threulio oriau lu yn codi tywelion a dillad isaf o byllau enwog (ar Instagram) Watkin. Fodd bynnag, yn y nos, roedd pob dim yn teimlo’n ddiarth a dirgel. Wrth ddarllen y map am nodweddion ar gyfer mordwyo, roedd yr enwau lleoedd yn dal fy llygad – Cwm y Bleiddiaid a Bwlch y Saethau. Daeth yr enwau yna’n fyw y noson hon, roedd y defaid yn troi’n fleiddiaid wrth iddyn nhw ymddangos yng ngolau fy fflachlamp ac roedd y chwedl bod y Brenin Arthur wedi ei ladd ym Mwlch y Saethau mor fyw â’n gwir hanes.
Mae gormod o brojectau cyffrous i’w rhestru yn y trosolwg byr hwn, ond un yr ydw i’n ei gofio’n annwyl oedd ein ymwneud â’r RSPB ar eu Project LIFE y Gylfinir. Bu tri aelod arall o staff a minnau yn helpu i arolygu’r rhostiroedd o amgylch Ysbyty Ifan i gasglu data ar y math o gynefin, dwyster ysglyfaethwyr a lleoliad nythod y gylfinir. Roedd cyfrannu i’r project hwn ar aderyn mor hardd, sydd â dyfodol hynod fregus, yn fraint. Wrth gynnal yr arolygon yma mewn rhan mor ddistaw o Eryri cefais rai o fy hoff gyffyrddiadau â byd natur, fel gweld grugiar goch yn codi’n swnllyd o’r grug a boda tinwen yn gwibio uwch fy mhen wrth i mi fwyta fy mrechdanau, yn ogystal â gweld gylfinirod yn dod o hyd i gymar ac yn diflannu i’r brwyn tal i chwilio am fan cudd i greu eu nyth.
Alf – yn croesi nant ar ein harolwg gylfinir ger Ysbyty Ifan
Rhan o’r swydd hon yn unig yw arwain dyddiau gwirfoddoli. Rhan craidd arall yw ymgysylltu a rhannu’r gwaith cadwraeth a wneir gan Gymdeithas Eryri gyda’r cyhoedd a phartneriaid. Ceir cyfleoedd o bob lliw a llun, o sgwrsio gyda grwpiau ieuenctid lleol i gyflwyno mewn cyfarfodydd rhanddalwyr allweddol. Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd gwych i fagu profiad o siarad cyhoeddus yn y Gymraeg a’r Saesneg ac i addasu’r cynnwys i sicrhau ei fod yn ddifyr i’r gynulleidfa ac yn benodol iddyn nhw. Dyma’r ddau beth pwysicaf a ddysgais o’r sgyrsiau hyn:
Un budd nad oeddwn wedi ei ragweld wrth weithio i Gymdeithas Eryri oedd faint o waith partneriaeth yr oeddem yn ei gwblhau. Fel swyddog cadwraeth rydym yn arwain llawer o ddyddiau ymarferol mewn partneriaeth â chyrff amgylcheddol o fewn y Parc, boed hynny’n blannu coed gyda Choed Cadw neu sefydlogi mawnogydd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r cydweithio hwn rhwng cyrff yn fuddiol i bawb sy’n cymryd rhan. Mae’r gwirfoddolwyr yn cael mwy eto o fudd o wybodaeth ac arbenigedd y partneriaid. Rydym ninnau yn elwa wrth eu helpu i drefnu a recriwtio ein gwirfoddolwyr gwych sy’n dod draw ac yn cwblhau’r gwaith cadwraeth ymarferol! Hefyd, am reswm hollol hunanol, maen nhw’n ychwanegu gwerth personol i mi drwy gyfrwng eu gwybodaeth a hefyd yn cyflenwi dealltwriaeth o’r gwahanol orchwylion cadwraeth sydd ar y gweill yn Eryri.
Mae’r dull hwn o weithredu yn allweddol i’n calendr gwirfoddolwyr amrywiol a llawn ac yn sicrhau budd i bawb sy’n cymryd rhan.
Crafu’r wyneb yn unig mae’r erthygl hon o safbwynt holl fanylion fy nghyfnod gyda Chymdeithas Eryri. Er nad ydw i trafod holl fanylion ein gwaith, gobeithio ei bod wedi rhoi blas i chi o beth yw gwaith swyddog cadwraeth yma. A do, mi wnes i hepgor y gwaith swyddfa, oherwydd pwy sydd am wybod am Excel, Outlook, SharePoint neu, hyd yn oed yn waeth, Teams! Os ydych yn ystyried gyrfa ym maes cadwraeth a chreu sylfaen cadarn o fedrau, cofiwch chwilio am swyddi ar gael a magu profiad gwerthfawr wrth wirfoddoli gyda ni.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk