Apwyntiadau newydd

Rydw i’n falch iawn o adael i aelodau, gwirfoddolwyr a chefnogwyr wybod ein bod yn ddiweddar wedi recriwtio dau aelod newydd o’r staff.

Bydd llawer ohonoch yn adnabod Rory Francis a fydd yn ymuno â ni fel Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri ym mis Hydref. Mae Rory yn adnabyddus ledled Eryri fel cadwraethwr brwdfrydig ac ymgyrchydd gweithgar. Yn ddiweddar bu’n gweithio i Gyswllt Amgylchedd Cymru, Coed Cadw a’r World Wildlife Fund.

Bydd rhai ohonoch hefyd yn cofio mai Rory oedd Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri rhwng 1994 a 2000.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Rory wrth iddo ddychwelyd i gydweithio â ni yn ystod cyfnod lle mae cadw a gwarchod tirlun, harddwch naturiol a rhinweddau arbennig Eryri cyn bwysiced a pherthnasol ag erioed.

Hoffwn hefyd groesawu Hazwani Ibrahim fel ein Swyddog Ariannol newydd a ymunodd â ni yn ddiweddar ac sydd eisoes yn aelod gwerthfawr o’n tîm gwych.

Sue Beaumont
Cadeirydd