Yn yr ychydig fisoedd diwethaf mae Cymdeithas Eryri wedi bod yn cydweithio gyda asnachwyr annibynnol mewn ton greadigol o gefnogaeth i’r Parc Cenedlaethol.
Ychydig cyn y Nadolig lluniodd Caroline Somary o Sweet Snowdonia flwch o fara sunsur a wnaed â llaw ar thema Eryri, gyda’r bwriad o gyfrannu £1 o bob blwch a werthwyd i Gymdeithas Eryri. Gwerthwyd y blychau ar-lein ac mewn amryw o farchnadoedd ledled gogledd Cymru yn y cyfnod prysur cyn y Nadolig.
Gwneud yr un fath
Joe Brown Shops a Conquer Lake District yw’r busnesau annibynnol diweddaraf i wneud yr un fath.
Yn gynharach eleni dechreuodd siopau offer awyr agored Joe Brown yn Llanberis a Chapel Curig werthu poteli dŵr y gellid eu hail-ddefnyddio, gyda 50c o bob gwerthiant yn mynd tuag at waith ymarferol Cymdeithas Eryri yn y Parc Cenedlaethol. Meddai Cyfarwyddwr Joe Brown, Cathy Casey:
“Ein dymuniad yw annog pobl i osgoi plastig un-defnydd lle bod hynny’n bosibl felly mae cynhyrchu potel
brand Nalgene ar gyfer ein cwsmeriaid gyda chyfran o’r gwerthiant yn mynd i’n helusen gadwraeth leol
yn rhoi neges amgylcheddol cryf ein bod fel busnes yn cymryd hyn o ddifrif.”
Yn yr un modd, cysylltodd y cwmni Lakeland, Conquer Lake District, gyda Chymdeithas Eryri yn ddiweddar gyda’r syniad o greu cynnyrch i gefnogi rhaglen wirfoddoli Cymdeithas Eryri. Mae eu hystod lliwgar o glytiau mynydd ar thema Eryri bellach ar gael i’w harchebu ar-lein, gyda 5% o werthiant pob clwt yn cael ei gyfrannu i Gymdeithas Eryri. Meddai’r un a grëodd Conquer, Caroline Fisher:
“Rydym yn wir werthfawrogi y gwaith y mae elusennau cadwraeth fel Cyfeillion Ardal y Llynnoedd a Chymdeithas Eryri yn ei wneud ar ran ein hoff Barciau Cenedlaethol. Mae cyfrannu rhan o’n helw yn un ffordd y gallwn gefnogi’r gwaith gwych a wneir y tu ôl i’r llenni.”
Amser i’n hysbrydoli
Mewn ymateb i’r tueddiad cynyddol o dderbyn cefnogaeth busnesau annibynnol, meddai John Harold,
Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri:
“Mae llawer o fusnesau annibynnol yn cefnogi ein gwaith drwy gyfrwng eu Haelodaeth Fusnes blynyddol; fodd bynnag, rydym bellach yn gweld busnesau annibynnol yn cymryd cam pellach drwy gyfrannu canran o werthiannau eu cynnyrch i helpu i gefnogi ein gwaith. Gobeithiwn y bydd llawer mwy yn gwneud yr un fath.”
Efo busnes ac eisiau gwneud eich darn? Cysylltwch â ni heddiw: info@snowdonia-society.org.uk
Dangoswch eich cefnogaeth i fusnesau annibynnol ac ewch i edrych ar Sweet Snowdonia, Joe Brown Shops
a Conquer Lake District ar-lein heddiw.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk