Bydd y ras Quest Adventure Race ym Metws-y-coed unwaith eto’n cyfrannu arian i Gymdeithas Eryri am bob swyddog gwirfoddol fydd yn cymryd rhan ar y diwrnod.
Am bob swyddog a gaiff ei recriwtio gan Gymdeithas Eryri, mae trefnydd y digwyddiad Jayne Lloyd wedi addo cyfraniad o £35 tuag at ein gwaith o warchod y Parc Cenedlaethol.
Cynhelir y digwyddiad ym Metws-y-coed ar ddydd Sadwrn 8 Mehefin ac ni fydd yn bosibl ei gynnal heb dîm o wirfoddolwyr i gynorthwyo.
Fel swyddog gwirfoddol, bydd angen i chi fynychu sesiwn friffio am 7.15yb (darperir brecwast) cyn symud i’ch lleoliad ar gwrs y ras i logio ac annog y cystadleuwyr fydd yn mynd heibio hyd y daw’r ras i ben oddeutu 2yp. Bydd crys-T a phowlen o gawl ar gyfer pob gwirfoddolwr ar ddiwedd y ras fel diolch am gynorthwyo ar y diwrnod.
I helpu cefnogi Cymdeithas Eyri drwy wirfoddoli fel swyddog, cysylltwch â Claire:
claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk