Diolch enfawr i Goleg Myddelton a disgyblion Coleg Menai sydd wedi bod yn cydweithio â ni ledled Eryri dros fisoedd y gaeaf. Mae’r grwpiau wedi cymryd rhan mewn rheolaeth cynefin ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a chlirio eithin o weddillion safleoedd cyn-hanesyddol dynodedig yn y Carneddau. Da iawn un ac oll; mae eich brwdfrydedd a’ch holl waith wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac wedi gwireddu cryn dipyn! Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda llawer mwy o grwpiau yn ystod y flwyddyn i ddod.
Mae hi wedi bod yn bleser hefyd cyfarfod a threulio amser gyda grŵp Sgowtiaid Bethesda a Ffermwyr Ifanc Caernarfon i sgwrsio am waith cadwraeth yn Eryri – mae eich diddordeb a’ch ymrwymiad yn galonogol ac yn ysbrydoliaeth!
Os ydych yn gwybod am unrhyw grŵp ysgol neu ieuenctid a hoffai gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth yn Eryri, cofiwch gysylltu gyda dan@snowdonia-society.org.uk.
Myfyrwyr Coleg Menai ar diwrnod clirio eithin, Cwm Anafon
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk