Ym mis Ebrill nododd Mary-Kate Jones ddeng mlynedd o weithio gyda Chymdeithas Eryri. Ymunodd â’r staff yn 2012 fel Rheolwr Project ein gweithgareddau gwirfoddoli. Heddiw mae hi’n Reolwr Rhaglen ar dîm staff cadwraeth ymarferol llawer ehangach, ac mae’r twf hynny wedi digwydd yn bennaf o ganlyniad i’w gwaith. Ymysg ei llu o gyfrifoldebau, mae Mary-Kate yn sicrhau ac yn rheoli ariannu, yn datblygu hyfforddiant achrededig ac yn bwrw ymlaen â gwelliannau o ran sut rydym yn gweithio fel cymdeithas ac mewn partneriaeth.
Rydym yn sicr y byddwch yn dymuno ymuno â ni i ddiolch i Mary-Kate am ei chyfraniad i Gymdeithas Eryri ac i Eryri; mae hi wedi chwarae rhan ganolog mewn gwireddu llawer iawn o waith a chyfleoedd dros y degawd ddiwethaf!
Llawer iawn o waith a phenderfyniad, gwên, a llygad ar y dyfodol. Diolch i ti, Mary-Kate!
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk