Caru Eryri – bwrw trem yn ôl ar haf prysyr

O’r Pasg ymlaen hyd at ddechrau mis Hydref mae timau o wirfoddolwyr Caru Eryri wedi bod yn crwydro’n rheolaidd mewn ystod o leoliadau ledled y Parc Cenedlaethol.

Pob penwythnos ac ym mhob tywydd, mae gwirfoddolwyr wedi casglu sbwriel, wedi rhoi cyngor i ymwelwyr, wedi ateb cwestiynau, ac wedi bod yn bresenoldeb cyfeillgar yn y mynyddoedd. Rŵan bod yr haf wedi dod i ben, gallwn fwrw trem yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd:

  • 120 o ddyddiau wedi eu treulio’n gofalu am Eryri
  • 117 o bobl wedi gwirfoddoli
  • 469 bag o sbwriel wedi eu casglu
  • 1044 kg o sbwriel wedi ei gasglu

Mae’r ystadegau uchod yn rhoi cipolwg ar effaith hynod bositif timau Caru Eryri, ac hefyd yn darparu data sbwriel tymor hir sy’n helpu i flaenoriaethu ein gwaith. Ac, yn ogystal â gwirfoddolwyr yn yr awyr agored, mae ein hymgyrch negeseua ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cyrraedd dros 990 mil o bobl ac wedi rhannu cyngor ar sut i fwynhau Eryri mewn modd gyfrifol cyn i bobl gyrraedd yma. Canlyniad gweithio mewn partneriaeth rhwng Cymdeithas Eryri, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw’r project eang ei ystod hwn ac fe’i cefnogir gan nifer o arweinwyr gweithgareddau awyr agored lleol profiadol.

Rydym yn falch o fod wedi cyfrannu tuag at ymdrechion lleol i ofalu am Eryri drwy gydol yr haf prysur a hoffem hefyd amlygu’r gwaith dygn a wnaed gan eraill fel wardeniaid gwych yr Wyddfa a Chader Idris, Llanberis Daclus, casglwyr sbwriel yng Nghapel Curig a llawer mwy. Diolch arbennig i gaffi Penceunant hefyd am y lluniaeth!

Diolch i bawb unwaith eto sydd wedi cyfrannu eu hamser a’u hymdrechion yr haf hwn i ofalu am bobl a lleoliadau Eryri – mae eich gwaith dygn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr,  ac hyd yn oed wedi derbyn cydnabyddiaeth yn y Senedd!