Cefnogaeth yn cynyddu i’r ymgyrch i warchod un o raeadrau mwyaf mawreddog Eryri

Yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori ffurfiol a welodd dros 1000 o bobl yn ysgrifennu i wrthwynebu’r cynllun dadleuol i adeiladu argae ar draws Afon Cynfal a dargyfeirio, ar adegau, bron i 70% o’r dŵr o amgylch rhaeadr Rhaeadr y Cwm, mae rhagor o bobl wedi siarad i gefnogi’r ymgyrch i warchod y rhaeadr a Cheunant Cynfal unigryw. At hynny, mae agwedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri tuag at y datblygiad wedi dod yn gliriach.

Yn ei datganiad blaenorol i’r wasg1, mynegodd Cymdeithas Eryri bryder bod y datblygwyr wedi datgan ar eu ffurflen gais eu bod wedi derbyn cyngor cyn ymgeisio gan yr Awdurdod sef: “The principle of the scheme [is] considered acceptable.”2 Ond mae’r Parc Cenedlaethol wedi dweud yn glir bellach, mewn e-bost at y Gymdeithas, nad yw hynny’n wir.

Wrth sôn am hyn, dywed y newyddiadurwr ac awdur Dei Tomos, sydd wedi bod yn aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y gorffennol:

“Mae’n ymddangos erbyn hyn nad ydi’r datblygwyr hydro wedi cael unrhyw arwydd o gefnogaeth i’w cais cynllunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r hyn a ddywedon nhw yn eu cais cynllunio yn gamarweiniol ac mae Cymdeithas Eryri wedi cael sicrwydd na fynegwyd unrhyw arwydd o gefnogaeth gan adran Gynllunio APCE.

“Wrth gwrs fe wyddom ni fod hwn yn gynllun dadleuol a dweud y lleiaf, mae Rhaeadr y Cwm a cheunant afon Cynfal yn hardd eithriadol, yn un o emau yng nghoron Eryri, nid yn unig o ran yr olygfa hynod drawiadol, ond o ran ei amrywiaeth rhyfeddol o blanhigion a chynefinoedd.

“Mae hynny wedi ei gydnabod gan fod hwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal o Harddwch Naturiol yng Nghynllun Lleol Eryri. Mae hynny yn golygu fod cyfrifoldeb i osgoi gwneud unrhyw beth fydd yn “effeithio’n niweidiol ar [eu] cymeriad nag amwynder.”  Ond yn ychwanegol dyma ardal o hanes a rhamant, a’r cwm arbennig unigryw yma a’i afon ei geunant a’i raeadr rhyfeddol yn gysylltiedig a’r Mabinogi. Mae’n rhaid ei amddiffyn a’i gadw’n ddigyfnewid.”

Cynghorydd lleol yn siarad allan

Un person arall sydd wedi siarad o blaid gwarchod y rhaeadr yw’r Cynghorydd Mark Lloyd Griffiths, sy’n digwydd bod yn Gadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog, lle lleolir y rhaeadr – er ei fod yn siarad fel unigolyn yn yr achos hwn. Mae’n dweud: “Mae Rhaeadr Cwm Cynfal yn arbennig iawn mewn llawer ffordd. Dwi’n gobeithio fod pawb yn deall unwaith mae’r drws wedi ei agor fydd yna ddim dod yn ôl.”

Cen sy’n brin yn genedlaethol newydd ei ganfod ar safle oedd gynt dan fygythiad

Yn y cyfamser, ym mis Medi eleni datgelodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddarganfyddiad y cen hynod brin, Porina atlantica, wrth Raeadr y Graig Lwyd ger Betws-y-coed4. Dyma ddim ond yr eildro i’r rhywogaeth gael ei chofnodi yn unman yng Ngwledydd Prydain. Mewn arolog o’r safle cafwyd hyd i 209 o rywogaethau o gennau, gyda 94 ohonynt sy’n cael eu hystyried yn ‘brin yn genedlaethol’. Mae hyn bron yn dyblu’r nifer a gofnodwyd gynt.

Wrth sôn am hyn, dywedodd Dan Yates o fudiad Save our Rivers, un o’r grwpiau sy’n gwrthwynebu cynllun Cwm Cynfal: “Roedd Rhaeadr y Graig Lwyd o dan fygythiad gynt oherwydd ddatblygiad trydan dŵr ac mae’r newyddion gwych hwn gan CNC yn dangos bod safleoedd fel hyn yn arbennig ac na all unrhyw arolwg, pa waeth mor dda gofnodi eu pwysigrwydd llawn. Rwan mae’r cyrff mudiadau gwirfoddol sydd â’u bryd ar ddiogelu Cwm Cynfal yn gofyn i’r cynllunwyr ddangos yr un agwedd ofalus tuag at ddatblygu ynni dŵr a ddangoswyd ar Afon Conwy, yng Nghwn Cynfal”.

Mae’r cais yn debygol o gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol, o bosibl ar 4 Rhagfyr neu 22 Ionawr.

Nodiadau:

  1. Mae hwn i’w weld arlein yma: https://www.snowdonia-society.org.uk/cy/maer-naturiaethwr-iolo-williams-a-mil-o-bobl-eraill-wedi-codi-llais-o-blaid-gwarchod-rhaeadr-sydd-wedi-ysbrydoli-storiwyr-artistiaid-a-beirdd-dros-fileniwm/
  2. Gellir gweld y ffurflen gais ar-lein yma: https://planningapi.agileapplications.co.uk//api/application/document/SNOWDONIA/M7S2HTSAEC6QAL26EX2RJUZG6N7QW9B8HRKAFHQDDZ9S9MX69GKJ9H6HHEDFZQGSS4LMA
  3. Mae hwn i’w weld ar Borth Cynllunio Awdurdod y Parc Cenedlaethol yma: https://planningapi.agileapplications.co.uk//api/application/document/SNOWDONIA/LXXDAW4KJ9P9QNSE7QNZ3ERG5KA2GF5HK8MVXNUPE8VDWY7PLKC9QAJDMVKCUV5
  4. Rhagor o fanylion am hyn yma: https://naturalresources.wales/about-us/news-and-blogs/news/species-boosted-by-habitat-work-in-beauty-spot/?lang=cy
  5. Llun: Rory Francis